Huw Griffiths o Dref Caernarfon wrth ei fodd yn dychwelyd Cymru Premier
Mae hyfforddwr Tref Caernarfon Huw Griffiths wedi galw am ei dîm i fod yn fwy cyson am weddill y tymor Cymru Premier.
Bydd y Cofis yn dychwelyd i’r Oval prynhawn fory yn erbyn Aberystwyth. Tro diwethaf i Gaernarfon chwarae’r ‘Seasiders’ oedd gêm Rhagfyr ym Mharc Avenue, gyda tîm Griffiths yn ennill y gêm 2-1 gyda goliau gan Jack Kenny a Darren Thomas.
Gyda’r Cofis yn croesawu Aberystwyth i’r Oval prynhawn fory, mae yno llawer iawn o newyddion cyffrous i gefnogwyr Caernarfon.
Mae Nathan Craig wedi ymuno nôl, tra fod estyniad i gytundeb Noah Edwards a Huw Griffiths ei hun yn ymestyn ei gytundeb gyda’r Cofis am ddwy flynedd a hanner arall.
Yn edrych ymlaen i’r sialens o Aberystwyth, mae Griffiths wedi ymateb i newyddion da yn yr Oval.
“Mae’n meddwl lot, fy mod wedi cael y cynnig i barhau fel rheolwr tîm cyntaf Caernarfon am ddwy flynedd a hanner arall,” dywed Griffiths.
“Doedd ddim angen i mi feddwl amdano fo, dwi’n ddiolchgar iawn i bawb am ofyn amdana’i, yn enwedig Paul yn dweud ei fod o isio rhoi dwy flynedd a hanner arall i mi.”
Ar hyn o bryd, mae Caernarfon yn bumed yn nhabl Uwch Gynghrair Cymru gydag Aberystwyth yn y deuddegfed safle.
Gêm diwethaf Caernarfon cyn y cyfnod clo oedd yn erbyn Y Drenewydd gan ddod yn gyfartal erbyn diwedd y gêm gyda gôl gan Sion Bradley.
Mynnodd Griffiths fod y tymor wedi bod yn un gadarnhaol hyd yn hyn, ond mae’n galw am gysondeb gan y Cofis yn gemau sydd i ddod.
“Mae wedi mynd yn well nag be oeddwn yn feddwl, collom lot o chwaraewyr dechrau’r flwyddyn a thrio cael nhw gyd mewn, tydan ni ddim wedi cael ‘run da’ fel maen nhw’n dweud.
“Mi ydan ni wedi bod i fyny ac i lawr blwyddyn yma. Mwy o gysondeb mi ydan ni angen, mae bechgyn wedi ‘neud yn wych. Gobeithio gawn ddechrau ‘mlaen eto ar y ‘front foot’ fel me nhw’n dweud.”
Mae hi wedi bod yn gyfnod anodd i chwaraewyr setlo yn eu clybiau gyda sesiynau hyfforddi ar Zoom a chyfyngiad ar gymdeithasu.
Er hynny, mae Griffiths llawn clod gyda’r ffordd mae chwaraewyr newydd wedi ymuno a’r clwb.
“Mae nhw wedi bod yn wych,” dywed Griffiths. “Hwn ydy’r clwb hawsa’ i gael ond heb yr holl Cofi army a nhw gyd yna, mae yn anodd.
“Does dal rhai ohonyn nhw yn cweit yn sîcr o’r profiad, chwarae o flaen y Cofi army a finnau chwaith fel rheolwr ar ben fy hun.”
Mewn tymor unigryw yn Uwch Gynghrair Cymru, cyfadda Griffiths fod y pandemig wedi dod â sialensau newydd.
“Mae wedi bod yn anodd, mae Fish, Dave a Rhys wedi neud lot o waith i mi. Dwi ddim yn dda iawn gyda’r dechnoleg ond mae gennym ni ‘Zoom meetings’ mi ydan ni gyd yn neud ‘wan, ‘strava runs’, ‘downloadio’ stwff ei hunain i’r clwb.
“Mi oeddem wedi creu rhaglenni i’r chwaraewyr gallu gweithio arno, felly dwi ond yn gobeithio fod y chwaraewyr wedi bod yn eu cwblhau ac yn barod am y gemau”.
Er gwaetha’r sialensau yn y cyfnod yma, mae Griffiths yn llawn clod am sut mae’r clwb wedi dyfalbarhau.
“Mae ‘na lot o bobl sydd ddim yn cael clod fan hyn, chwaraewyr, cadeirydd y clwb a’r pwyllgor, mae ‘na lot o wirfoddolwyr sydd yn dod i clwb Caernarfon sydd yn neud i bethau weithio.
“Mi ydan ni trio helpu nhw efo pethau ond heb y gwirfoddolwyr yma ni fysa dim byd yn digwydd. Felly dwi ond isio rhoi clod mawr i bobl yma i gyd sydd yn neud y gemau yn saff efo’r rheolau.
“Heblaw am y bobl yma’n troi fyny i neud yn siŵr fod popeth mynd yn iawn, ni fysa hyn ddim yn digwydd. Mi ydan ni gyd yn edrych ‘mlaen i’r tymor ddychwelyd, neis gael y chwiban gyntaf ‘na mynd i ffwrdd ac i allu mwynhau eto.”
Gydag Uwch Gynghrair Cymru’n dychwelyd â Chaernarfon yn bumed yn y tabl, mynnodd Griffiths mai’r chwech uchaf yw’r nod.
“Os ydan ni’n gorffen yn bumed, dwi meddwl mi fysa’ ni wedi neud yn wych, 6 uchaf ydy’r safle mi yda ni yn trio cyrraedd erbyn diwedd y tymor.
“Mae’n mynd i fod yn anodd gyda’r gemau sydd ar ôl gennym ni. Mi ydan ni isio siawns o’r ‘playoffs’, mae’n bwysig i’r clwb yma.
“Os mi ydyn ni yn cael y siawns yna, mae gennym ni siawns yn erbyn rhywun, mae gennym ni chwaraewyr arbennig.
“Cadwch y ffydd, mi ydan ni yn chwarae i chi, gobeithio cawn y canlyniad iawn ac mi fydda ni gyd yn hapus.”