Y Barri 1-0 Aberystwyth: Gôl hwyr Nat Jarvis yn selio’r triphwynt ym Mharc Jenner

Adlamodd y Barri nôl o golled nos Fawrth gyda fuddugoliaeth o 1-0 yn erbyn Aberystwyth ym Mharc Jenner.

Roedd ergyd emffatig gan ymosodwr Nat Jarvis yn ddigon i’r Barri gipio’r triphwynt.

Mewn gêm lle roedd cyfleoedd i’r ddau dîm, bydd Aberystwyth yn teimlo’n anlwcus i adael Barc Jenner yn waglaw.

Mae’r fuddugoliaeth yn gweld y Barri’n dychwelyd nôl i bedwerydd yn y tabl, tra bod Aberystwyth yn aros yn ddegfed.

Cychwynnodd Aberystwyth yn gadarnhaol gyda’r capten Marc Williams bron yn manteisio ar gamgymeriad yn amddiffyn y Barri, ond mi wnaeth Evan Press yn dda i adennill meddiant.

Daeth siawns arall i’r ymwelwyr pan dorodd y bêl i Harry Franklin, ond gafodd ei wrthod cyfle i saethu gan Curtis McDonald. 

Tyfodd y Barri fewn i’r gêm a credodd eu bod wedi cymryd y fantais pan roddodd Jamie Bird y bêl yn y rhwyd, ond gafodd yr ymosodwr ei ddal yn cam-sefyll.

Parhaodd Aberystwyth i bwyso’r Barri ac roedd yr ymwelwyr yn edrych yn llawn egni ar ôl cael dwy ganlyniad gadarnhaol. 

Cafodd y dyfarnwr, Alex Livesey, ei alw fewn i weithred pan aeth asgellwr Aberystwyth Franklin lawr yn y cwrt cosbi, ond roedd y sialens yn un teg.

Ar y cwsb o hanner amser, daeth siawns enfawr i’r Barri, gyda McDonald yn croesi’n wych tuag at Nat Jarvis a roddodd ei ymdrech dros y bar. 

Fel yn yr hanner cyntaf, cychwynnodd Aberystwyth yn llawn egni, gyda Franklin yn gorfodi Mike Lewis fewn i arbediad da.

Daeth siawns enfawr i’r Barri gyda chroesiad arbennig tuag at Theo Wharton, ond doedd y chwaraewr canol cae methu droi’r bêl i fewn i’r rhwyd. 

Yng nghyfnod addawol i’r Linosiaid, daeth cyfle gorau’r gêm, gyda Bird yn croesi i Jarvis a saethodd dros y bar.

Wrth i’r ddau dîm edrych am gôl fuddugol, roedd cyfle i Franklin, ond doedd yr asgellwr methu cysylltu ar y postyn pellaf. 

Gwthiodd y Barri yr ymwelwyr nôl yn y deg munud olaf a daeth siawns i sgorio drwy gyn-chwaraewr Cymru David Cotterill. 

Roedd croesiad yr asgellwr brofiadol yn wych, ond fe beniodd eilydd Callum Sainty dros y bar. 

Gyda pedair munud i fynd, daeth y gôl fuddugol i’r Barri, gyda Michael George yn canfod lle yn y cwrt i groesi i Nat Jarvis a ergydiodd yn emffatig i fewn i’r rhwyd.

Er ymdrechion Aberystwyth i unioni’r sgôr, y Barri a gipiodd y triphwynt. 

Bydd dynion Gavin Chesterfield yn gwynebu Penybont nos Fawrth, tra fydd Aberystwyth yn chwarae’r Drenewydd yn ei gêm nesaf. 

(Credyd Llun: Rhys Skinner)

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.