Parhaodd Cyncoed eu dechrau gadarnhaol o dan hyfforddwr Charlie Mitchell gyda gêm gyfartal o 1-1 yn erbyn Y Fenni ym Mharc Chwaraeon USW.
Cafodd gôl ail hanner gan eilydd Ffion David ei ganslo allan gan ergyd Monet Legall yn y deg munud olaf.
Mewn gêm lle allai unrhyw un o’r ddau dîm wedi gallu curo, mae’r pwyntiau’n cael eu rhannu.
Mae’r gêm gyfartal yn gweld Y Fenni’n aros yn drydydd yn y tabl, gyda Cyncoed yn bedwerydd.
Cychwynnodd y gêm yn gystadleuol wrth i’r ddau dîm chwarae â tempo uchel, gyda’r siawns cynta’n cwympo i Ellie Gunney a ergydiodd i fewn i ddwylo Pernalete.
Setlodd Y Fenni i mewn i’r gēm wrth iddyn nhw gael fwy o feddiant, ond roedd amddiffyn y tîm cartref yn benderfynol.
Roedd tîm Mitchell yn edrych i wrth-ymosod a bron i Gyncoed greu siawns arbennig gyda Gunney’n chwarae’r bêl drwy i Alison Witts a gafodd ei guro’n i’r bêl.
Daeth cyfle arall i Witts munudau wedyn gyda Rhianne Oakley’n chwarae’r bêl drwy’n gampus, ond roedd yr ymosodwr yn cam-sefyll.
Roedd tîm Craig Morgan-Hill yn edrych yn gyfforddus ym meddiant ac yn chwarae gyda tempo uchel, ond yn methu gorfodi Maisie Jones fewn i weithred.
Wrth i’r ddau dîm mynd fewn i hanner-amser yn ddi-sgôr, roedd hi’n hanner cyntaf difyr â natur chyflym.
Cychwynnodd yr ail hanner yn dilyn yr un patrwm â’r hanner cyntaf, gyda’r ddau dîm yn ymosod yn eu tro.
Mi wnaeth asgellwr Cyncoed Rhianne Oakley’n dda i ganfod Witts yn y cwrt, ond gafodd yr ymosodwr ei guro i’r bêl.
Yng nghyfnod gadarnhaol i’r tîm cartref, sgwariodd Millie Jones y bêl i Witts a orfododd arbediad campus gan Pernalete.
O’r cic gornel, daeth cyfle enfawr i gapten Holly Broad, a beniodd dros y bâr.
Er bod y ddau dîm wedi chwarae ar Ddydd Sul, nid oedd arwyddion o flinder gyda’r tempo cyflym yn parhau.
Ar ôl ymosodiadau gadarnhaol gan y ddau dîm, agorwyd y sgorio’n y 76ed munud gan Y Fenni.
Roedd lle yn hanner Cyncoed i eilydd Ffion David godi’r bêl dros Maisie Jones i selio’r gôl agoriadol.
Ymatebodd tîm Mitchell yn gadarnhaol gan edrych i unioni’r sgôr yn syth a dyna’n union a wnaeth Cyncoed, gyda 84 o funudau ar y cloc.
Cafodd y bêl ei chwarae allan i Monet Legall ar y dde a orffennodd yn daclus i’r tîm cartref.
Er ymdrechion y ddau dîm i ganfod gôl fuddugol yn hwyr yn y gêm, cafodd y pwyntiau eu rhannu ym Mharc Chwaraeon USW.
Bydd Cyncoed yn dychwelyd i’r cae Dydd Sul i wynebu Abertawe sydd ar gopa’r tabl, tra fod Y Fenni’n cystadlu â Met Caerdydd am yr ail safle.
Menywod Cyncoed: Maisie Jones, Grace Morris, Millie Jones, Clare Daley, Holly Broad (C), Caitlin Meadows, Ellie Gunney, Seren Watkins, Rhianne Oakley, Kerry Moore (Monet Legall 45’), Alison Witts
Menywod Y Fenni: Zara Mujica Pernalete, Sian Bull, Lauren Boyd, Mali Summers, Jessica Bennett, Olivia Barnes, Lauren Daniels, Ceri Hudson (C), Lyndsey Davies, Amy Williams, Eliza Atkins
Leave a Reply