Y Barri 6-2 Y Bala: McLaggon yn serennu wrth i’r Barri selio lle’n y chwech uchaf

Seliodd Y Barri eu lle yn y chwech uchaf gyda fuddugoliaeth nodedig o 6-2 yn 700fed gêm Colin Caton fel hyfforddwr Y Bala. 

Er i’r Bala gymryd y fantais yn gynnar drwy beniad Chris Venables, ymatebodd y Barri’n gampus gyda goliau Kayne McLaggon ac Evan Press.

Mewn gêm gystadleuol a difyr, rhoddodd goliau ail-hanner Chris Hugh, McLaggon a Press mewn safle awdurdodol.

Daeth gôl Kieran Smith y Bala nôl fewn i’r gêm, ond seliodd gôl wych gan Curtis Jemmett-Hutson y triphwynt i’r Barri. 

Mae’r fuddugoliaeth yn gweld tîm Gavin Chesterfield yn codi i bedwerydd yn y tabl, wrth iddyn nhw sicrhau eu lle yn y chwech uchaf.

I’r Bala, aroswyd yn drydydd yn y tabl, ond mae’r bwlch rhyngddyn nhw â’r Seintiau Newydd yn ymestyn i 12 pwynt.

Cychwynnodd yr ymwelwyr yn gyflym, gan gymryd y fantais gyda dwy funud ar y cloc. 

Cafodd groesiad gan Sean Smith ei benio gan Antony Kay fewn i gyfeiriad Venables a orffennodd yn daclus i roi’r Bala ar y blaen. 

Parhaodd dechrau da’r Bala gan roi’r tîm cartref o dan bwysau gyda nifer o gorneli cynnar. 

Ymatebodd y Barri’n gampus gan wrth-ymosod, wrth iddyn nhw ganfod gôl gyfartal yn y 12fed munud. 

Cafodd gic cornel Jordan Cotterill ei roi nôl fewn i’r cwrt ac ymatebodd McLaggon yn gyntaf i sgorio i’r Barri. 

Tair munud wedyn, aeth y Barri ar y blaen, gyda chroesiad campus Chris Hugh’n cael ei benio’n bwerus i mewn i’r rhwyd gan Press. 

Daeth siawns i’r Barri ychwanegu trydydd yn fuan wedyn, gyda gic rydd Jordan Cotterill yn mynd dros y bar. 

Mewn cyfnod o gyfleoedd i’r ddau dîm, peniodd Nathan Peate yn bwerus o gic cornel i orfodi arbediad ffantastig gan Mike Lewis. 

Yn agosáu at hanner-amser, cafodd y dyfarnwr ei alw fewn i weithred, wrth i Luke Cooper fynd lawr yn y cwrt, ond yr alwadau am gic o’r smotyn ei wrthod.

Wrth i’r dyfarnwr chwibanu am hanner-amser, aeth Barri fewn i’r toriad gyda mantais o 2-1 ar ôl hanner cyntaf difyr. 

Yn debyg i’r hanner cyntaf, cychwynnodd y gystadleuaeth yn gyflym, wrth i’r Bala brotestio am gic o’r smotyn pan aeth Ollie Shannon lawr yn y cwrt, ond gafodd yr apêl ei wrthod.

Gwrth-ymosododd Y Barri’n effeithlon ac fe ymestynodd y tîm cartref eu mantais yn y 50fed munud. 

Elwodd cefnwr chwith Hugh o gamgymeriad yn amddiffyn y Bala i sgorio, gan roi mantais o ddwy gôl i dîm Chesterfield. 

Yn edrych am gôl i gyfartalu, mi wnaeth asgellwr Jack Mackreth ganfod lle yn y cwrt i orfodi arbediad gampus gan Lewis.

Daeth cyfle enfawr i’r Barri ychwanegu’r pedwerydd gôl, wrth i Cotterill guro ei ddyn yn y cwrt, ond cafodd ei ergyd am gôl ei glirio’n wych gan Shaun Kelly.

Er hynny, na chafodd y tîm cartref eu gwrthod, gyda chroesiad Cotterill yn cael ei droi fewn i’r rhwyd gan McLaggon yn y 66ed munud.

Dim ond pum munud wedyn, ymunodd Press â McLaggon gan sgorio dwbl, wrth i’r bêl gwympo iddo’n y cwrt a gorffennodd y chwaraewr ganol cae yn daclus.

Mewn cyfnod â nifer o gyfleoedd, cafodd y Bala gôl i leihau’r fantais, gyda Venables yn penio lawr i’r eilydd Smith a droiodd y bêl i’r rhwyd.

Er ymdrechion yr ymwelwyr i ddod nôl fewn i’r gêm, mi wnaeth y Barri’n sicr o’r fuddugoliaeth yn yr 80fed munud. 

Ergydiodd eilydd Curtis Jemmett-Hutson gôl gampus heibio Ramsay i ychwanegu’r chweched a selio’r triphwynt i’r Barri. 

Ar ddiwrnod ola Cyfnod Un, bydd y Barri’n teithio i Met Caerdydd, tra fod Y Bala’n croesawu’r Fflint.

Y Barri: Mike Lewis, Chris Hugh, Luke Cooper, Callum Sainty (Theo Wharton 57’),  Kayne McLaggon (Curtis Jemmett-Hutson 78’), Nat Jarvis (David Cotterill 86’), Jordan Cotterill, Luke Cummings, Curtis McDonald, Michael George (Rhys Kavanagh 86’), Evan Press

Goliau: Kayne McLaggon 12’, 66’, Evan Press 15’ 71’, Chris Hugh 50’, Curtis Jemmett-Hutson 80’

Cardiau Melyn: Callum Sainty 43’, Nat Jarvis 47’

Y Bala: Alex Ramsay, Sean Smith, Nathan Peate (Jonny Spittle 73’), Will Evans (Kieran Smith 73’), Antony Kay, Shaun Kelly, Lassana Mendes, Jack Mackreth, Ryan Pryce, Chris Venables (C), Oliver Shannon

Goliau: Chris Venables 2’, Kieran Smith 75’

Cardiau Melyn: Lassana Mendes 60’

(Credyd Llun: Lewis Mitchell)

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.