Aberystwyth 1-2 Y Drenewydd: Gôl funud olaf yn selio buddugoliaeth ddramatig ar ddiwrnod darbi
Seliodd y Drenewydd hawliau brolio dros gymdogion lleol Aberystwyth gyda buddugoliaeth ddramatig o 2-1 ym Mharc Avenue.
Er i’r Drenewydd gwympo ar ei hôl hi ar ôl peniad bwerus Marc Williams, fe seliodd goliau hwyr gan Tyrone Ofori a Jordan Evans fuddugoliaeth ar ddiwrnod darbi.
Ymatebodd tîm Chris Hughes yn dda i dreilio gyda perfformiad wych yn yr ail hanner, gan greu nifer o gyfleoedd.
Mae’r fuddugoliaeth yn gweld y Drenewydd yn cychwyn yr Ail Gyfnod yn y ffordd gorau posib, gan godi dros Aberystwyth a lleihau’r bwlch rhyngddynt a Hwlffordd yn y seithfed safle i chwe phwynt.
Mae’r golled i Aberystwyth yn eu gweld nhw’n cwympo i nawfed yn y tabl, dau bwynt tu ôl Drenewydd yn y ras am safle ail gyfle.
Yn nodweddiadol o ddarbi, cychwynnodd y gystadleuaeth gyda tempo uchel â’r cyfle cyntaf yn disgyn i asgellwr Aberystwyth, Owain Jones, a dorrodd y tu mewn a thanio heibio’r postyn.
Ymatebodd y Drenewydd yn dda i gyfle cynnar y tîm cartref, gan fynd yn agos trwy ymdrech y cefnwr chwith Callum Roberts, a arbedwyd yn dda gan y golwr Alex Pennock.
Pwysodd y ddwy ochr yn llawn egni a bu bron i’r Robins elwa o gamgymeriad gan gefnwr chwith Aberystwyth, Mathew Jones, gyda James Davies bron â chasglu ei bêl llac yn ôl i Pennock.
Cafodd Aberystwyth lwyddiant wrth daro’r Drenewydd ar y gwrthymosodiad, gan ennill y bêl yn ôl yng nghanol cae yn gyson, ond fe methwyd wrth geisio ddod o hyd i bêl derfynol glinigol.
Syrthiodd cyfle enfawr i dîm Hughes gyda 30 munud ar y cloc, wrth i’r cefnwr dde Craig Williams groesi’n rhagorol i’r Nick Rushton, a beniodd heibio’r postyn.
Daeth cyfle arall i’r ymwelwyr yn fuan wedi hynny, wrth i’r cefnwr canol Kieran Mills-Evans ganfod lle yn y cwrt, ond fe beniodd dros y bar.
Fe dalodd Drenewydd am beidio â chymryd eu cyfleoedd, wrth i Aberystwyth agor y sgorio yn y 41ain munud.
Cyfarfu groesiad cornel drygionus gan Jones yn rymus gan y capten Marc Williams i roi’r Seasiders ar y blaen ar y strôc o hanner amser.
Mewn hanner cyntaf o gyfleoedd a chyfnodau gadarnhaol i’r ddwy ochr, Aberystwyth a aeth i mewn i’r egwyl gyda mantais o un gôl.
Gan edrych i daro’n ôl yn gynnar, cychwynnodd y Drenewydd yr ail hanner yn gadarnhaol, gyda Fletcher yn ergydio’n bwerus o ymyl y blwch.
Parhaodd yr ymwelwyr i bwyso am gôl i gyfartalu, ond roedd amddiffyniad Aberystwyth, dan arweiniad Lee Jenkins, yn gadarn.
Ar ôl i ergyd Jonathan Evans gael ei rwystro gan amddiffynwr, creoedd y Drenewydd gyfle ar yr wrthymosodiad, wrth i Rushton ddod o hyd i Ofori, a daniodd dros y bar.
Parhaodd y Drenewydd i bentyrru pwysau ar Aberystwyth, gyda Roberts yn dod o hyd i le ar y chwith i danio ymdrech ffyrnig dros y bar.
Er gyfnod o gyfleoedd i’r ymwelwyr, roedd Aberystwyth yn dal i beri perygl ar y gwrthymosodiad gyda chyflymder Jonathan Evans, John Owen ac Owain Jones.
Serch hynny, cafodd y Drenewydd eu gwobrwyo am eu dyfalbarhad ymosodiadol wrth iddyn nhw ddod o hyd i gôl i gyfartalu yn y 74ain munud.
Cafwyd hyd i’r ymosodwr Ofori gyda lle yn y blwch i droi heibio ei ddyn a rhoi’r bêl heibio Pennock i lefelu’r sgorio.
Ar ôl cyfartalu, roedd cynffonau’r Drenewydd i fyny ac aeth yn agos at ddod o hyd i’r fantais gyda nifer o gyfleoedd.
Peniodd Jamie Breese dros y bar o du mewn i’r cwrt, cyn i Evans gael ymdrech bwerus wedi’i rwystro’n arwrol gan Jack Thorn.
Fodd bynnag, cafodd Evans ei wobrwyo am eu dyfalbarhad, gan ergydio’n bwerus heibio Pennock yn y 92ain munud i selio gôl fuddugol ddramatig i’r Drenewydd.
Seliodd gôl munud olaf yr eilydd y triphwynt i dîm Hughes, gyda perfformiad ail hanner gampus yn troi’r gêm ar ei phen.
Mae’r ddwy ochr yn dychwelyd i’r cae wythnos nesaf, wrth i Aberystwyth deithio i Hwlffordd a’r Drenewydd yn gwynebu Prifysgol Fetropolitan Caerdydd.
Aberystwyth: Alex Pennock, Louis Bradford, Lee Jenkins, Harry Franklin, Mathew Jones, John Owen, Marc Williams (C), Jonathan Evans, Owain Jones (Dan Cockerline 76’), Jack Thorn, Jack Rimmer
Goliau: Marc Williams 41 ’
Y Drenewydd: Dave Jones, Sean McAllister, Kieran Mills-Evans, Nick Rushton, James Davies (Jamie Breese 70′), Craig Williams (C), Tyrone Ofori, Ryan Edwards (76′) (Jordan Evans 76′), Shane Sutton, Alex Fletcher, Callum Roberts
Goliau: Tyrone Ofori 74’, Jordan Evans 90 + 2’
Cardiau Melyn: Ryan Edwards 45’
(Credyd Llun: Will Cheshire)