Penybont 1-1 Tref Caernarfon: Caernarfon yn taro nôl i sicrhau gêm gyfartal

Cafodd Penybont eu pedwaredd gêm gyfartal gartref yn olynol y tymor hwn ar ôl i Gaernarfon frwydro nôl yn yr ail hanner yn Stadiwm SDM Glass.

Nathan Wood sgoriodd y gôl gyntaf wedi 35 munud, cyn i Cai Jones unioni’r sgôr yn yr ail hanner.

Roedd Penybont wedi llwyr ddominyddu’r hanner cyntaf glawog, ond ni wnaethant allu wneud i’r pwysau gyfrif, ac eithrio gôl Wood. Bydd y tîm cartref yn difaru methu nifer o gyfleodd, gan gynnwys cic o’r smotyn a gafodd ei harbed.

Dechreuodd y gêm gyda thempo uchel iawn, a’r tîm cartref gafodd y cyfle cyntaf o’r gêm. Fe wnaeth James Waite anelu croesiad i’r cwrt cosbi, ac yna peniodd Wood y bêl at Sam Snaith. Fodd bynnag, cafodd peniad Snaith ei wyro allan am gornel.

Cafodd Snaith gyfle arall yn fuan yn ddiweddarach. Y tro hwn creodd Wood y cyfle gyda thriciau gwych i fynd heibio Gruff John, ond aeth peniad Snaith o’r croesiad dros y trawst.

Roedd Mael Davies wedi dangos ei ddawn a’i driciau i fynd heibio amddiffynwyr drwy gydol yr hanner cyntaf, ac fe dalodd ar ei ganfed ar ôl i Davies dorri i mewn i’r cwrt cosbi, a llithrodd Mike Hayes i mewn gyda thacl wedi’i gam-amseru, gan adael Rob Jenkins heb ddewis ond pwyntio at y smotyn.

Roedd mwy o ddrama i ddod fodd bynnag. Anelodd Kane Owen ei gic gosb i’r gornel dde, ond dyfalodd Jakub Ojrzynski yn gywir a phario’r gic gosb i ffwrdd.

Ddeng munud cyn hanner amser, gwnaeth Penybont eu goruchafiaeth i gyfrif o’r diwedd. Cafodd y bêl ei phenio o amgylch y bocs o gic rydd, ac yn y pen draw fe laniodd wrth draed Nathan Wood. Cadwodd yr asgellwr ei hunanfeddiant i daro’r bêl drwy fôr o goesau ac i mewn i’r gôl.

Gyda’r glaw yn clirio, fe ddechreuodd Caernarfon yr ail hanner yn llawer gwell, er nad oedd hyn wedi cyfieithu ar unwaith i gyfleodd clir. Cafodd Rob Hughes ddau gyfle o giciau rhydd; gafodd un ei achub gan Morris, ac aeth y llall dros y trawst..

Roedd Caernarfon yn meddwl eu bod wedi dod yn gyfartal â 25 munud ar ôl, wedi i Cai Jones wyro ergyd Darren Thomas i mewn i’r gôl. Fodd bynnag, cododd y llumanwr ei faner gan fod Jones yn camsefyll.
Munud yn ddiweddarach, fodd bynnag, oedd dim amheuaeth am gôl Jones. Chwaraeodd Rob Hughes y bêl i lwybr Jones, ac fe daniodd hi heibio Morris i ddod â’r sgôr yn gyfartal.

Er gwaethaf eu holl ymdrechion, ni wnaeth y naill dîm na’r llall lwyddo i ddod o hyd i gôl i ennill y gêm yn yr 20 munud olaf. Roedd y ddau dîm yn ei chael hi’n anodd â’r bas olaf.

Parhaodd Wood â’i berfformiad rhagorol, gan symud i’r asgell dde erbyn diwedd y gêm. Fodd bynnag, roedd yn ymddangos bod ganddo ddiffyg cefnogaeth ar adegau, ac roedd wedi gorfod gwneud popeth ei hun.

Roedd Darren Thomas yn sbardun disglair i Gaernarfon, a bu bron iddo sgorio wedi i’r bêl ddisgyn iddo o gic gornel. Yn anffodus i Gaernarfon, methodd ei foli â tharo’r targed.

Ar ôl methu ag ennill eto, mae Penybont wedi llithro lawr i’r nawfed safle. Mae Caernarfon wedi aros yn bedwerydd yn y tabl.


Seren y Gêm

Nathan Wood – Penybont

Mae’n debyg y bydd Gruff John, cefnwr de Caernarfon, yn cael hunllefau heno o Wood yn rhedeg ato. Achosodd triciau a chyflymder Wood broblemau diddiwedd i amddiffyn Caernarfon, a chyda mwy o gefnogaeth gan ei gyd-chwaraewyr y gallai Penybont fod wedi sgorio gôl ychwanegol hefyd.


Timoedd

Penybont: Ashley Morris, Kane Owen (C), Ashley Evans, Dan Jefferies, Mael Davies, Lewis Harling, Nathan Wood, James Waite (Keane Watts 77′), Sam Snaith (Ben Ahmun 69′), Jack Evans, Ryan Reynolds

Eilyddion na ddefnyddiwyd: Sam Goodwin, Liam Walsh, Shaquille Wynter-Coles, Billy Borge, Tom Tweedy

Gôl: Nathan Wood 35′

Cerdyn melyn: Ashley Evans 61′

Caernarfon: Jakub Ojrzynski, Iwan Cartwright, Gruff John, Dion Donohue (C), Mike Hayes, Darren Thomas, Rob Hughes, Noah Edwards, Aaron Simpson, Ryan Williams (Bobby Beaumont 46′), Cai Jones

Eilyddion na ddefnyddwyd: Tyler French, Calum Huxley, Gwion Dafydd

Gôl: Cai Jones 68′

Cardiau melyn: Noah Edwards 13, Aaron Simpson 33, Rob Hughes 62′

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.