Y Barri 1-1 Aberystwyth: Gôl hwyr Franklin yn achub pwynt i Aberystwyth

Cafodd Aberystwyth eu gêm gyfartal gyntaf o’r tymor ar ôl gôl hwyr Harry Franklin ym Mharc Jenner.

Sgoriodd Kayne McLaggon y gôl gyntaf ar ôl awr, cyn i Franklin sgorio o gic gornel i sicrhau bod y pwyntiau’n cael eu rhannu.

Roedd y gêm yn fratiog, gyda glaw trwm yn yr ail hanner yn gwneud pethau’n waeth. Fe wnaeth nifer o droseddau gan y ddau dîm atal y gêm rhag llifo.

Ar ôl deng munud agoriadol tawel, cafodd Y Barri eu cyfle cyntaf o’r gêm ar ôl ennill cic rydd ar ymyl y cwrt cosbi, ond roedd ergyd isel Cotterill wedi mynd yn taro’r wal.

Ddeng munud yn ddiweddarach, bu bron i Aber gael cyfle eu hunain wedi i gyffyrddiad gwael gan Abbruzzese roi’r bêl i Jonathan Evans, ond cafodd y blaenwr ei droseddu gan Abbruzzese cyn iddo allu torri i mewn i’r cwrt cosbi. Roedd Evans yng nghanol pethau eto ddau funud yn ddiweddarach, gan wneud yn dda i ddod o hyd i le yn y cwrt cosbi cyn i’w ergyd gwibio heibio’r postyn.

Roedd y tîm oddi cartref yn yr esgyniad erbyn hyn, ac fe arweiniodd cic gornel at nifer o ergydion ar y gôl, ond fe wnaeth amddiffyn Y Barri’n dda i gael eu cyrff yn y ffordd.


Roedd 15 munud agoriadol yr ail hanner wedi gweld mwy o gyffro na’r hanner cyntaf, gyda’r ddwy dîm yn cael cyfleoedd. Roedd ergyd Franklin o du allan i’ cwrt cosbi wedi’i arbed gan Mike Lewis, a chafodd John Owen gyfle o ongl dynn ar ôl croesiad gwych gan Rimmer, ond roedd yr ongl yn rhy dynn ac aeth yr ergyd ar draws wyneb y gôl.

Daeth cyfle gorau’r tîm cartref hyd yma i Clayton Green. Syrthiodd y bêl i Green mewn digonedd o le chwe llath allan, ond hedfanodd ei ymdrech ymhell dros y trawst.

Ar ôl cyfle Green, roedd y tîm cartref wedi ennill rhywfaint o fomentwm, ac roedd Y Barri wedi gwneud y mwyaf o’r momentwm diolch i’r ymosodwr Kayne McLaggon. Roedd y bêl wedi gwyro oddi ar Marcus Day a disgyn yn syth i McLaggon, a daniodd ergyd isel heibio Zabret.

Roedd hi’n ymddangos bod ildio wedi deffro Aberystwyth, a gafodd gyfle ychydig funudau yn ddiweddarach. Arweiniodd cic gornel at sgramblo ar y llinell gôl, ond fe gliriodd Y Barri yn y pen draw. Cafodd Veale gyfle i sgorio o du allan i’r cwrt cosbi yn fuan wedi hynny, ond hedfanodd ei ergyd yn llydan o’r postyn.

Yn y pum munud olaf, llwyddodd y tîm oddi cartref i ddod o hyd i’r gôl. Methodd amddiffyn Y Barri, oedd wedi edrych yn sigledig yn yr awyr drwy’r gêm, â delio â phêl hir, ac yn y pen draw cafodd ei glirio allan am gornel. Roedd Harry Franklin wedi dianc oddi ar ei farciwr a cododd yn uwch nag unrhyw un arall i benio’r gic gornel adref.

Gydag amser yn dirwyn i ben, roedd y tîm cartref wedi cael nifer o gyfleoedd hwyr i ddwyn y tri phwynt. Taniodd Nathaniel Jarvis yn llydan o ymyl y cwrt cosbi, ac roedd Zabret wedi gorfod bod arddihun i arbed ergyd gan McLaggon. Yn yr eiliadau olaf, dyfarnwyd cic rydd arall i’r Barri ar gyrion y cwrt cosbi, ond ymatebodd Zabret yn dda i’r ergyd gan Rhys Abbruzzese.

Wedi’r canlyniad hwn, mae Aberystwyth wedi aros yn yr 11eg safle ar 10 pwynt, tra bod Y Barri yn 8fed ar 15 pwynt.


Cymru Premier – Fixtures and Results – 2021/2022 season


Seren y Gêm

Louis Bradford – Aberystwyth

Roedd Bradford yn gryf yn amddiffynol, ac roedd yn hunanfeddiannol pryd bynnag yr oedd ar y bêl. Pan lwyddodd Y Barri i dorri amddiffyn Aber, roedd Bradford wedi ymateb yn dda gyda rhywfaint o amddiffyn eiliad-olaf.

Timau

Y Barri: Mike Lewis, Luke Cummings, Robbie Patten, Kayne McLaggon (C), Jordan Cotterill (Nathaniel Jarvis 87), Rhys Kavanagh, Marcus Day (Theo Wharton 80), Curtis McDonald, Rhys Abbruzzese, Clayton Green, Evan Press

Eilyddion heb eu defnyddio: Kelland Absalom, Luke Cooper

Gôl: Kayne McLaggon 65’

Cardiau melyn: Rhys Abbruzzese 22, Marcus Day 41′

Aberystwyth: Gregor Zabret, Jack Rimmer, Rhys Davies (Sam Phillips 28), Louis Bradford, Lee Jenkins, Jack Thorn (C) (Steff Davies 79′), Matthew Jones, Jamie Veale, John Owen (Raul Correia 66), Harry Franklin, Jonathan Evans

Eilyddion heb eu defnyddio: Alex Pennock, Richie Ricketts, Alex Darlington, Cameron Allen

Gôl: Harry Franklin 85

Cardiau melyn: Jack Rimmer 11, Rhys Davies 17, Matthew Jones 38′

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.