Met Caerdydd 0-0 Derwyddon Cefn: Met yn methu’r marc mewn gêm ddi-sgôr

Roedd Met Caerdydd yn difaru methu nifer o gyfleoedd wrth iddyn gael eu rhwystro i gêm ddi-sgôr yn erbyn Derwyddon Cefn.

Creuodd tîm Christian Edwards sawl cyfle i agor y sgorio, ond doedd y Myfyrwyr methu cymryd y fantais.

Mae’r pwynt yn gweld y Met yn cwympo i ddegfed yn y Cymru Premier, ar ôl i Aberystwyth guro’r Drenewydd o 1-0. 

I’r Derwyddon Cefn, mae’r ymwelwyr yn aros ar waelod y tabl, ond yn pigo fyny eu pwynt cyntaf mewn chwech gêm. 

Cychwynnodd Met Caerdydd yn llawn egni, gydag Eliot Evans yn canfod lle i orfodi arbediad dda gan Mike Jones yn y funud agoriadol. 

Parhaodd y Met i greu cyfleoedd, wrth i Harry Owen saethu dros y bar i’r tîm cartref.

Daeth siawns arall i dîm Christian Edwards, gydag Evans yn croesi’n berffaith i Thomas Price a beniodd yn syth at Jones.

Roedd y Met yn parhau i reoli meddiant wrth i Evans fethu gyda chyfle arall i agor y sgorio.

20/03/2021 – Cardiff Metropolitan 0-0 Cefn Druids © Will Cheshire

Credai’r Myfyrwyr eu bod wedi cymryd y fantais pan roddodd Price y bêl yn y rhwyd, ond welodd y dyfarnwr drosedd gan y chwaraewr canol cae. 

Daeth cyfle arall i Met Caerdydd, unwaith eto yn cwympo i Price a roddodd ei beniad dros y bar. 

Wrth i’r ddau dîm fynd fewn i hanner amser yn ddi-sgôr, byddai’r Met wedi bod yn rhyfeddu sut nad oedden nhw’n curo, ar ôl creu nifer o gyfleoedd. 

Cychwynnodd yr ail hanner llawer yn fwy gyfartal na’r cyntaf, wrth i Derwyddon Cefn gystadlu llawer yn well. 

Roedd amddiffyn yr ymwelwyr yn benderfynol ac yn gweithio’n galed am lechen lân.

Er dyfiant yr ymwelwyr i mewn i’r gêm, parhaodd y Met i greu cyfleoedd. 

Roedd lle yn y cwrt i eilydd Josh Thomas, ond diniwed i Jones oedd ergyd yr ymosodwr.

Daeth cyfle arall i Thomas, gyda cefnwr chwith Matthew Blake yn croesi’n wych, ond doedd yr ymosodwr methu troi’r bêl fewn i’r rhwyd.

Er fod y Met wedi creu nifer o gyfleoedd, roedd tîm Edwards wedi’u gorfodi i setlo am bwynt.

Mae’r Myfyrwyr yn parhau i chwilio am eu buddugoliaeth cyntaf ers i’r Cymru Premier ail-gychwyn wrth iddyn nhw deithio i Gaernarfon, tra fod Derwyddon Cefn yn gwynebu Aberystwyth.

Met Caerdydd: Alex Lang, Dylan Rees, Emlyn Lewis, Eliot Evans, Chris Baker ©, Charlie Corsby, Harry Owen (Liam Warman 76’), Joseph Evans (Rhydian Morgan 80’), Thomas Price, Matthew Blake, Lewis Rees (Josh Thomas 63’)

Cardiau Melyn: Lewis Rees 48’

Derwyddon Cefn: Mike Jones ©, Phil Mooney, Aaron Simpson, Ethan Cartwright, Sam Phillips (Ben Barratt 84’), Niall Flint, Iwan Cartwright, Kieran Smith, Harry Fuller, Ryan Kershaw, Stefan Edwards

Cardiau Melyn: Aaron Simpson 21’, Ryan Kershaw 64’

(Credyd Llun: Will Cheshire)

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *