May 4, 2024

Y Clwb Pêl-droed

Your home for Welsh domestic football!

Menywod Cyncoed 3-1 Briton Ferry Llansawel: Millie Jones yn serennu ym muddugoliaeth cyntaf Charlie Mitchell fel hyfforddwr

21/03/2021 - Cyncoed Ladies 3-1 Briton Ferry Llansawel © Penallta Photographics

Dechreuodd amser Charlie Mitchell fel hyfforddwr Cyncoed yn y ffordd gorau posib, gyda fuddugoliaeth o 3–1 dros Briton Ferry Llansawel ym Mharc Chwaraeon USW.

Rhoddodd goliau hanner cyntaf Millie Jones a Megan Saunders y tîm cartref yn yr oruchafiaeth gyda fantais cynnar o ddwy gôl a gafodd ei hanneru gan ergyd Chelsea Deacon. 

Roedd peniad bwerus Alison Witts yn yr ail hanner yn arwyddocaol a seliodd y driphwynt i Gyncoed.

Mae’r fuddugoliaeth yn gweld Cyncoed yn codi i bedwerydd yn nhabl Uwch Gynghrair Cymru. 

Er ymdrechion ddiflino Briton Ferry Llansawel, mae’r ymwelwyr yn recordio cholled am y pumed tro tymor yma.

Cychwynnodd Cyncoed yn gyflym gan gymryd y fantais yn y pum munud agoriadol.

Cafodd gic cornel ei glirio allan i Millie Jones, sydd wedi creu argraff i’r clwb tymor yma. Ergydiodd yr ymosodwr yn gywir o du allan i’r cwrt wrth i Gyncoed sgorio’n gynnar.

Parhaodd y tîm cartref eu cychwyn gadarnhaol, gan ddyblu eu mantais yn yr 15ed munud. 

21/03/2021 – Cyncoed Ladies 3-1 Briton Ferry Llansawel © Penallta Photographics

Roedd Jones yn ran o’r ymosodiad unwaith eto, wrth iddi ganfod Megan Saunders yn y cwrt a orffennodd yn emffatig i selio’r ail gol.

Er gychwyn cyflym Cyncoed, roedd yr ymwelwyr yn brwydro’n dda, gydag ymosodwyr Caitlin Owen a Chelsea Deacon yn gweithio’n ddiflino.

Cafodd Deacon ei wobrwyo wrth i Briton Ferry Llansawel hanneru’r ddifyg yn y 35ed munud. 

Chwaraewyd y bêl drwy at Deacon a orffennodd yn daclus heibio Maisie Jones yng nghyfnod gadarnhaol i dîm Isaac Berry.

Gyda sgôr o 2-1 yn mynd fewn i hanner amser, roedd yr ymwelwyr nôl yn y gêm ar ôl dechrau cryf gan Cyncoed.

Fel yn yr hanner cyntaf, cychwynnodd Cyncoed yn gyflym gan adfer y fantais o ddwy gôl yn y pum munud agoriadol o’r ail hanner. 

Peniodd ymosodwr Alison Witts yn bwerus i mewn i’r rhwyd am ei bedwerydd gol o’r tymor. 

Parhaodd Cyncoed i greu cyfleoedd gyda rhediad gampus gan Rhianne Oakley’n gorfodi arbediad gan Young.

Daeth cyfle enfawr i’r tîm cartref wrth i eilydd Ellie Gunney groesi’n berffaith at Seren Watkins ond doedd y chwaraewr canol cae methu troi’r bel i’r rhwyd.

Er ymdrechion Briton Ferry Llansawel i ganfod ffordd nôl fewn i’r gem, seliodd beniad Witts y triphwynt i Gyncoed.

Bydd Cyncoed yn edrych am ddau fuddugoliaeth yn olynol wrth iddyn nhw groesawu Abergavenny i Barc Chwaraeon USW ar nos Fawrth, tra fod Briton Ferry Llansawel yn gwynebu Port Talbot yn eu gêm nesaf.

Menywod Cyncoed: Maisie Jones, Grace Morris, Clare Daley, Holly Broad ©, Seren Watkins, Kirstie Pervin-Davies, Rhianne Oakley, Millie Jones, Megan Saunders, Monet Legall (Ellie Gunney 65’), Alison Witts

Goliau: Millie Jones 4’, Megan Saunders 15’, Alison Witts 48’

Cardiau Melyn: Monet Legall 41’

Briton Ferry Llansawel: Courtney Young, Alice Broadley, Anya Welch, Renee Day, Lowri Ridings ©, Nia Davies, Lucy Powell (Georgia Howells 78’), Chelsea Deacon, Megan Kearle, Caitlin Owen, Sophie Topper

Goliau: Chelsea Deacon 35’

(Credyd Llun: Mike James)

1 thought on “Menywod Cyncoed 3-1 Briton Ferry Llansawel: Millie Jones yn serennu ym muddugoliaeth cyntaf Charlie Mitchell fel hyfforddwr

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.