May 14, 2024

Y Clwb Pêl-droed

Your home for Welsh domestic football!

Caernarfon 3-5 Y Drenewydd: Diwrnod bythgofiadwy ar Yr Oval ac lle yn Ewrop i’r Drenewydd

Caernarfon, Wales 29 May 2021. JD Cymru Premier UEFA Europa Conference League play-off Final between Caernarfon Town and Newtown AFC. Credit: Will Cheshire / Clwb Peldroed.

Mewn gem bythgofiadwy ar Yr Oval pnawn Dydd Sadwrn, Y Drenewydd oedd yn fuddugol wrth iddynt sicrhau eu lle yn Ewrop ar ol trechu Caernafon o 5 gol i dair.

James Davies oedd y gwahaniaeth rhwng y ddau dîm wrth iddo ddod oddi ar y fainc a sgorio dwy a creu un arall. Nid oedd dwy gol gan Darren Thomas a un gan Jack Kenny yn ddigon i’r Cofis wrth iddynt golli allan ar y lle yn Ewrop.


Er i Llywodraeth Cymru benderfynnu yn erbyn gadael cefnogwyr fewn i’r Oval, roedd digon o gefnogwyr angerddol y Cofis i weld o gwmpas y cae, yn gwneud yn siwr nad oeddynt am fethu allan ar un o gemau pwysicaf yn hanes y clwb.
Fe gychwynnodd y gem ar gyflymder byrlumus wrth i’r ddau dim fynd amdani o’r chwiban cyntaf gyda Caernarfon yn cael y gorau o’r munudau agoriadol ond nid oedd cyfleuon clir yn cael eu creu.

Buodd golygfeydd pryderus wrth i Paulo Mendes a Shane Sutton fynd benben a’i gilydd gyda’r chwaraewr canol cae Caernarfon yn dod allan waethaf. Er iddo drio cario mlaen, cafodd Mendes i’w eilyddio rhai munudau yn ddiweddarach.


Gyda chwarter awr wedi mynd, fe ddaeth y gôl gyntaf gan ymosodwr y tim cartref, Jack Kenny a ffrwydrodd Yr Oval. Pel hir dros amddiffyn Y Drenewydd, a enillodd Kenny y ras rhwng fo ei hun a Dave Jones ac er ymdrechion gorau Shane Sutton, nid oedd o yn medru stopio’r gôl.


Tyfodd hyder Caernarfon ar ol y gôl gyntaf ac fe oedd yr ail gol yn edrych yn debygol iddynt ond roedd amddifyn yr ymwelwyr yn gwneud digon i rwystro hynny. 10 munud cyn yr hanner, fe gafodd Y Drenewydd eu cyfle wrth i Lifumpa Mwandwe guro Lewis Brass i’r bêl ac er i’w ergyd cael ei glirio oddi ar y llinell, fe ddywedodd y dyfarnwr fod Brass wedi llorio Mwandwe ac fe oedd hi’n gic o’r smotyn i’r ymwelwyr. Dim cangymeriad gan Nick Rushton wrth i’w ergyd bwerus ganfod y rhwyd ac roedd hi’n gyfartal.


Chydig o funudau wedyn, roedd y gêm wedi troi ar ei phen wrth i Y Drenewydd sgorio eu ail wrth i Lifumpa Mwandwe ganfod y rhwyd ar yr ail gynnig ar ol i Brass arbed y cynnig gyntaf oddi ar Rushton, ond Mwandwe oedd yno gyda ergyd bwerus i fewn i gornel y rhwyd. Ar yr hanner, Caernarfon 1-2 Y Drenewydd.


Ceisiodd Caernafon newid pethau i’r ail hanner wrth i Jake Bickerstaff ddod ar yn lle Mike Hayes, ond fe gychwynnod Y Drenewydd yr ail hanner fel gorffennodd nhw y cyntaf gyda’r cyfleuon i gyd yn dod i’w ffordd nhw ond nid oeddynt yn medru dyblu eu mantais.


Chydig cyn yr awr, tro Darren Thomas oedd hi i wneud Yr Oval ffrwydro wrth i’r ‘Cofi Messi’ ddod a’r gêm yn gyfartal, tafliad i’r cwrt yn creu trafferth i’r Drenewydd ac Thomas oedd yno i fanteisio gyda ergyd wych a adawodd Jones dim cyfle yn y gol.


Munudau wedyn, tarodd Kieran Mills-Evans y postyn o gic cornel i’r ymwelwyr ac fe apeliodd Y Drenewydd am gic o’r smotyn ond anghytunodd y dyfarnwr er y protestiadau. Rhyw 20 munud cyn y chwiban olaf, roedd y ‘Cofi Mess’ wrth hi eto, gwaith gwych gan Bickerstaff wrth iddo droi ymosodiad Y Drenewydd yn ymosodiad i Gaernarfon, ac ar ol rhediad nerthol, roedd ei bas yn berffaith i lwybr Thomas ac gorfennodd yn wych ar ei droed chwith ac roedd y cefnogwyr yn credu mai eu diwrnod nhw oedd hon.


Ond nid oedd James Davies yn dilyn yr un sgript, munudau ar ol dod ar fel eilydd, fe sgoriodd Davies ar ol i gic rhydd berffaith Craig Williams ganfod yr asgellwr mewn digon o le i benio pasio Brass ac fe oedd hi’n gyfartal unwaith eto.
Munudau yn ddiweddarach, roedd penderfyniad Chris Hughes i yrru Davies ar y cae wedi profi i fod yn un o’r penderfyniadau gorau erioed, wrth i Mwandwe dorri ffwrdd o amddiffyn Caernarfon, ac ar ol i’w bas ganfod Davies, gorfennodd Davies yn gelfydd wrth i’w ergyd fynd o dan gorff y golwr, Brass. 10 munud i fynd ac fe oedd Y Drenewydd ar y blaen o 4-3.


Cyn ymosodwr Caernarfon, Jamie Breese torrodd galonnau ei gyn clwb, ar ol iddo sgorio yn y munudau olaf a sicrhau lle y Drenewydd yn Ewrop ar ol i Brass arbed gan Davies, ac Breese oedd y cyntaf i ymateb i wneud hi’n 5 i’r Drenewydd.

Mewn gêm hollol wych ar Yr Oval, Y Drenewydd aeth a hi ar ol bod ar eu hol hi chwarter awr cyn y chwiban olaf, fe ddangosodd tim Chris Hughes gymaint o gymeriad i ennill oddi cartref am yr ail dro yn y gemau ail-gyfle ac sicrhau eu lle yn Ewrop unwaith eto ar ol iddynt wynebu Copenhagen yn 2015. Gêm bythgofiadwy ar Yr Oval ac gêm oedd yn dangos gymaint oedd y lle yn Ewrop yn golygu i’r ddau ond diwrnod Y Drenewydd oedd hi ac hynny yn haeddiannol.

(Featured Image: Will Cheshire)

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.