May 19, 2024

Y Clwb Pêl-droed

Your home for Welsh domestic football!

Chwaraewyr Alashkert bydd rhaid i Nomadiaid Cei Connah wylio

Andy Morrison of the Connah’s Quay Nomads. Nikitas Mesney ©

Bydd pencampwyr y Cymru Premier, Nomadiaid Cei Connah, yn cychwyn eu hymgyrch Cynghrair y Pencampwyr wrth iddyn nhw groesawu Alashkert.

Eleni yw’r chweched tymor yn olynol i dîm Andy Morrison gystadlu yn Ewrop a bydd y Nomadiaid yn gobeithio i efelychu buddugoliaethau enwog dros Stabaek a Kilmarnock.

Mae’r gwrthwynebwyr, Alashkert, yn bencampwyr Uwch Gynghrair Armenia a hefyd wedi blasu pêl-droed Ewropeaidd yn ddiweddar.

Cyn y frwydr yng Nghoedlan y Parc, Aberystwyth, edrychwn yn agosach ar Alashkert a’u chwaraewyr i’w gwylio.

Wangu Gome

Ar ôl arwyddo gydag Alashkert yn 2020 o Cape Umoya United, cafodd Gome dymor cyntaf llwyddiannus yn Uwch Gynghrair Armenia.

Sgoriodd y chwaraewr canol cae gôl fuddugol yn y 92ain munud mewn buddugoliaeth ddramatig o 1-0 dros gystadleuwyr am y bencampwriaeth Urartu i ddod â rhediad o dair gêm gyfartal yn olynol i ben.

Er iddo gael ei gydnabod am ei ddawn amddiffynnol, cyfrannodd Gome gyda goliau hefyd, gan rwydo ar bedwar achlysur i orffen y tymor yn drydydd yn rhestr prif sgorwyr Alashkert.

Embed from Getty Images

Mae Gome hefyd yn brofiadol ar lefel ryngwladol, ar ôl cyflawni 27 ymddangosiad i Namibia ers ei gêm gyntaf yn 2014.

Ni fydd pwysau pêl-droed Ewropeaidd yn deimlad newydd i’r chwaraewr canol cae, ar ôl cael profiad yng Nghynghrair Europa y tymor diwethaf mewn colled yn erbyn KF Renova o Ogledd Macedonia. 

David Davidyan

Bydd llwyddiant y Nomadiaid yng Nghoedlan y Parc hefyd yn dibynnu ar ddileu’r perygl o David Davidyan.

Ymunodd chwaraewr rhyngwladol Armenia a anwyd yn Rwsia ag Alashkert yn 2020 o gyd-aelod Uwch Gynghrair Armenia, Ararat Yerevan. 

Dechreuodd yr ymosodwr ei amser gyda’i glwb newydd trwy wneud argraff gynnar, gan sgorio gôl duddugol 91fed munud mewn buddugoliaeth holl bwysig o 1-0 dros Noah.

Gan weithredu fel asgellwr dde, aeth Davidyan ymlaen i sgorio saith gôl mewn 26 ymddangosiad, gan orffen y tymor fel prif sgoriwr y clwb.

Gorffennodd Davidyan yn ail yn ddiweddar ym mhleidlais Ffederasiwn Pêl-Droed Armenia ar gyfer Chwaraewr y Tymor 2020-2021.

Artak Grigoryan

Nodwedd reolaidd yn nhîm Alashkert yn ystod y tymhorau diweddar fu’r chwaraewr canol cae Artak Grigoryan.

Ar ôl arwyddo i’r clwb o FC Mika yn 2015, mae Grigoryan wedi mynd ymlaen i fod yn bencampwr Uwch Gynghrair Armenia bedair gwaith, ynghyd ag ennill dau Gwpan Super Armenia ac un Cwpan Armenia.

Yn y bleidlais ddiweddar ar gyfer Chwaraewr y Tymor 2020-2021, daeth Grigoryan i’r brig gyda 41% o’r bleidlais.

Embed from Getty Images

Mae’r chwaraewr canol cae amddiffynnol hefyd yn brofiadol ar lefel ryngwladol, ar ôl gwneud 35 ymddangosiad i Armenia, gan sgorio unwaith.

Bydd profiad ac arweinyddiaeth Grigoryan yn allweddol i Alashkert a bydd yn un arall i’r Nomadiaid wylio.

(Credyd Llun: Nikitas Mesney)

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.