Cafodd Tref Caernarfon fuddugoliaeth gyfforddus yn eu gêm yn erbyn Tref Dinbych yng Nghwpan Cymru o flaen torf sylweddol.
Nid oedd torf o dros 600 o bobl yn ddigon i sbarduno Dinbych yn eu gêm gartref gyntaf mewn dros 18 mis, wrth i Gaernarfon sicrhau buddugoliaeth gyfforddus.
Agorodd Cai Jones y sgorio wedi deng munud cyn i Iwan Cartwright ychwanegu ail. Sgoriodd Rob Hughes gôl yn y naill hanner a’r llall i sicrhau’r fuddugoliaeth.
Roedd Dinbych heb yr amddiffynnwr profiadol Stuart Jones, tra bod Josh Bailey a Bobby Beaumont wedi gwneud eu hymddangosiadau cyntaf i Gaernarfon.
Daeth Kristian Pierce yn agos at agor y sgôr yn y pum munud agoriadol. Cymerodd y canolwr ergyd optimistaidd o 35 llath, a hedfanodd dros y trawst.
Funud yn unig yn ddiweddarach, fe wnaeth Caernarfon agor y sgôr drwy Cai Jones. Chwaraeodd Josh Bailey bas gwych i Hughes, a ymestynnodd i basio’r bêl i Jones. Cyrhaeddodd Jones y bêl mewn pryd i sicrhau gorffeniad hawdd a rhoi’r fantais i’r Cofis.
Daeth Dinbych yn agos eto drwy ergyd o bell. Sylwodd Lee Davey bod Tyler French oddi ar ei linell, ac fe darodd y canolwr hanner foli o 25 llath, nad oedd wedi taro’r targed.
Dyblodd Caernarfon eu mantais drwy gôl gyntaf Iwan Cartwright i Gaernarfon. Chwaraeodd Rob Hughes y bêl i mewn o’r gic gornel, a daeth y golwr Griffith allan i’w hawlio ond fe fethodd yn llwyr, ac roedd gan Cartwright beniad rhydd.
Ar ôl iddo greu dwy gôl gyntaf Caernarfon, tro Rob Hughes oedd hi nawr i sgorio. Casglodd yr ymosodwr y bêl o bas hir a’i phasio i mewn a mwy neu lai sicrhau’r fuddugoliaeth cyn y chwiban hanner amser.
Roedd yr ail hanner yn llai diddorol, gyda’r naill dim na’r llall yn llwyddo i greu cyfleoedd. Rob Hughes ddaeth agosaf at ychwanegu at fantais Caernarfon wrth i’w ergyd hedfan heibio’r postyn. Cafodd Lee Davey gyfle da i gael Dinbych yn ôl yn y gêm, ond cafodd ei beniad yn dilyn croesiad gwych gan Roberts ei arbed yn gyfforddus gan French.
Roedd eilyddion Dinbych yn edrych yn fywiog ond nid oeddent wedi llwyddo i greu cyfleoedd clir.
Creodd Caernarfon fwy o gyfleoedd yn y deng munud olaf, ac yna ychwanegodd Rob Hughes ei ail o’r noson. Roedd ei ail gôl yn debyg iawn i’r cyntaf, gan gasglu’r bêl ar yr ochr dde a sgorio â’i droed chwith.
Bu bron i Ddinbych sicrhau gôl gysur yn y munudau olaf. Cafodd peniad Walker ei arbed gan French, cyn i Cartwright gyrraedd i’w glirio oddi ar y llinell.
Seren y Gêm: Rob Hughes (Caernarfon)
Mae’r ymosodwr wedi creu argraff ers ymuno o’r Fflint, ac fe barhaodd â’i rhediad gwych nos Wener. Hughes wnaeth greu ddwy gôl gyntaf Caernarfon, cyn sgorio dwywaith ei hun.
Dywedodd rheolwr Tref Caernarfon, Huw Griffiths: “Mae Cwpan Cymru yn fawr i bawb, mae’n anferth. Ni tair gêm rŵan o’r ffeinal, a dyna’r hyn mae’n rhaid i bobl feddwl amdano, a hwn yw’r ffordd hawsaf o fynd i mewn i Ewrop.
“Bydd ‘upsets’ yn y cwpan yma, a dydyn ni ddim yn un ohonyn nhw, felly mae hynny’n bwysig iawn.”
Dywedodd rheolwr Tref Dinbych, Dewi Llion: “Rwy’n falch iawn (o berfformiad y tîm). Hanner cyntaf, ddaru Caernarfon ddominyddu ni, yna ddaru ni newid pethau yn yr ail hanner. Dwi’n meddwl os byswn ni wedi setio fyny’r un ffordd â’r ail hanner, byddai wedi bod yn wahanol gêm.
“Mewn sefyllfaoedd fel hyn, dwi’n meddwl ti’n dysgu mwy am chwaraewyr dy hun, pwy sy’n camu fyny, pwy sy’n torchi llewys, a pwy sy’n dangos bach o galon.”
Dinbych: Joe Griffith, Mathew Morris, Billy Holmes, Mike Sharples, Moses Barnett, Will Ashley, Leigh Craven (Jake Walker 62), Kristian Pierce (Sam Tate 69), Lee Davey, Jacob Barratt (Mark Roberts 62), Paul Fleming (C)
Eilyddion Heb Eu Defnyddio: Sam Jones, Sion Jones
Cardiau Melyn: Will Ashley 68, Moses Barnett 72’
Caernarfon: Tyler French, Iwan Cartwright, Josh Bailey (Ryan Williams 69’), Gruffydd John, Dion Donohue (C), Danny Gosset, Darren Thomas, Rob Hughes, Noah Edwards (Caio Evans 62’), Cai Jones (Gwion Dafydd 50′), Bobby Beaumont
Eilyddion Heb Eu Defnyddio: Steve Evans, Mike Hayes
Goliau: Cai Jones 9, Iwan Cartwright 36, Rob Hughes 43, 82’
Cerdyn Melyn: Rob Hughes 72’
Leave a Reply