May 20, 2024

Y Clwb Pêl-droed

Your home for Welsh domestic football!

Sion Bradley: Poen tymor diwetha’n rhoi cymhelliant i’r Cofis

CAERNARFON, WALES - 14 AUGUST 2021: Caernarfons Llywelyn Jones scores to make it 2-0 and celebrates during JD Cymru Premier league fixture between Caernarfon Town FC & Haverfordwest County AFC, The Oval, Caernarfon, Wales, 14th August, Wales, UK. (Pic By John Smith/FAW)

Mae Sion Bradley wedi mynegi y bydd y poen o golli yn rownd derfynol o’r gemau ail-gyfle y llynedd yn rhoi cymhelliant ychwanegol i Gaernarfon y tymor hwn.

Ar ôl ymgyrch lwyddiannus, gan gynnwys curo’r Barri yn rownd gyn-derfynol y gemau ail-gyfle, fe gwympodd y Cofis i golled boenus yn y rownd derfynol yn erbyn y Drenewydd.

Mae Bradley yn cofio anhawster dod mor agos at fynd â’i glwb lleol i fewn i Ewrop. 

“Mae na dal elfen o siom. Oedd o’n gêm adra yn erbyn y Drenewydd, oedd o’n siawns da i ni fynd i Ewrop. 

“Bysa gêm fela ‘di bod yn enfawr i glwb fel Caernarfon, yn enwedig i’r cefnogwyr. Bydda nhw wedi bod wrth eu bodda cael trip i ffwrdd. Oedd o’n siom enfawr i ni. 

“Mi wnaeth o frifo’n sicr, yn enwedig gyda ddim llawer ar ôl yn y gêm ac oedden ni’n curo. Mi wnaeth o’n waeth y ffordd wnaethon ni golli’r gêm dwi meddwl.”

“Fysa fo wedi meddwl bob dim am bod gynnon ni hogia lleol o Gaernarfon. Fysa fo wedi meddwl y byd iddyn nhw. 

“Fysa fo di bod yn grêt cael neud hyna i’r cefnogwyr. Mae nhw’n dod allan bob wythnos yn eu cannoedd i gefnogi ni, felly fysa fo ‘di bod yn neis i allu rhoi nôl iddyn nhw.”

Mewn rownd derfynol ddramatig, aeth Caernarfon ar y blaen trwy Jack Kenny, cyn i gic gosb Nick Rushton a gôl gan Lifumpa Mwandwe roi’r fantais i’r Drenewydd.

Fodd bynnag, rhoddodd dwy gôl yn yr ail hanner gan Darren Thomas y Cofis yn ôl ar y blaen.

Yn y chwarter olaf, rhwydodd James Davies ddwywaith, ynghyd â chyn ymosodwr Caernarfon, Jamie Breese, i selio buddugoliaeth o 5-3 i’r Drenewydd.

Er gwaethaf colled boenus, mae Bradley yn teimlo y gall y Cofis ddefnyddio’r profiad fel cymhelliant i’r dymor hon.

“Mae’r poen yna’n gwneud ni isio mynd cam ymhellach. Fysa hi mor neis gael y clwb yma’n Ewrop. 

“Mae na cwpwl yn y garfan sydd wedi chwarae yn Ewrop ac mae nhw o hyd yn deud pa mor dda oedd y profiad. 

“Mae’r siom o flwyddyn diwetha’n sicr yn gwthio ni mlaen i isio neud yn well tymor yma.”

Mae’r Cofis wedi cychwyn y tymor hwn gyda dwy fuddugoliaeth, un gêm gyfartal a dwy golled, gan recordio saith pwynt o’u pum gêm agoriadol.

Yn ogystal â churo Hwlffordd a Derwyddon Cefn, gwnaeth ochr Huw Griffiths argraff mewn gêm gyfartal gyda’r pencampwyr Nomadiaid Cei Connah ac mewn colled o 5-3 i’r Seintiau Newydd.

Mynnodd Bradley fod y dechrau i’r tymor wedi bod yn gadarnhaol i Gaernarfon.

“Dani ‘di chwara pêl droed da. Aethon ni i TNS a dwi meddwl oeddan ni’n anlwcus i adael heb dim byd. Does na ddim llawer o dimau yn mynd i TNS ac yn sgorio tri gôl. 

“Gathon ni berfformiad da yn erbyn Nomadiaid Cei Connah hefyd. Dani ‘di chwara’r ddau dîm ar dop y gynghrair o flwyddyn diwetha a di chwara’n dda. Mae’n gychwyn da i ni dwi meddwl. 

“Dani ‘di bod yn gystadleuol iawn. Dani o hyd yn gystadleuol. Mae cymeriad da gyda ni yn y tîm. Yn bob gêm, dani’n mynd allan i ennill, hyd yn oed yn erbyn timau fel TNS. 

“Dani ‘di newid system braidd tymor yma i siwtio’r hogia sydd wedi dod mewn. Dani’n trio chwara fwy o bêl droed ar y llawr.”

Nesaf i Gaernarfon yw gêm yn erbyn Met Caerdydd, sydd ar hyn o bryd yn chweched yn y tabl.

Er gwaethaf yr her o wynebu’r Fyfyrwyr, mae Bradley yn teimlo y bydd y dorf yn yr Oval yn chwarae rhan enfawr.

“Dwi’m yn meddwl bod na dîm yn y Cymru Premier sydd y hoff o ddod i’r Oval. 

“Mae’n rhaid i ni neud yn siwr bod ni’n curo’r gemau adra, yn enwedig gyda’r cefnogwyr yn gwaeddu ni ‘mlaen. Mae’n mynd i fod yn gêm anodd yn erbyn y Met, ond dani o hyd yn hyderus.

“Mae cael y cefnogwyr nôl blwyddyn yma’n enfawr i ni. Roedd o’n siom fawr hebddyn nhw blwyddyn diwetha. 

“Dwi meddwl yn y gêm yn erbyn y Drenewydd, ond pawb yn gallu gweld nhw ar ben tai, ar ben ffensys, oedden nhw pob man. 

“Mae nhw mor bwysig i ni. Mae nhw’n dragio’r bêl i fewn i’r rhwyd. Mae o’n enfawr i ni fel clwb i gael y cefnogwyr nôl. 

Mae’n mynd i fod yn gêm anodd yn erbyn y Met, ond gyda’r cefnogwyr tu ôl ni, dani o hyd yn hyderus.”

(Credyd Llun: John Smith / FAW)

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.