Bale yn dathlu ei ganfed cap gyda buddugoliaeth gyfforddus dros Belarws

Roedd dwy gôl gan Aaron Ramsey wedi helpu Gareth Bale i ddathlu ei ganfed ymddangosiad dros Gymru mewn steil, wrth i Gymru guro Belarws o bum gôl i un.

Dyma oedd buddugoliaeth fwyaf Cymru ers curo Tseina 6-0 yn 2018, a’r tro cyntaf iddynt guro Belarws o fwy nag un gôl.

Sgoriodd Aaron Ramsey a Neco Williams yn gynnar yn yr hanner cyntaf, cyn i Ramsey ychwanegu un arall o’r smotyn yn yr ail hanner. Ychwanegodd Ben Davies a Connor Roberts at dali Cymru, ond roedd Artem Kontsevoi hefyd wedi sicrhau gôl gysur i Belarws.

Cafodd Cymru y dechrau gorau posib i’r gêm, gan sgorio gyda llai na dau funud ar y cloc. Roedd camgymeriad gan Nikita Naumov wedi rhoi’r bêl i Dan James, a chafodd ei groesiad ei rwystro gan Naumov. Cafodd ergyd Allen o’r gornel ddilynol ei wyro yn llydan, gan ennill cic gornel arall i’r tîm cartref. Y tro hwn, syrthiodd y bêl i Ben Davies ar ymyl y cwrt cosbi. Roedd ei hanner foli yn syth yn Sergei Chernik, ond fe wnaeth y golwr ei ollwng ac fe gafodd Aaron Ramsey ei adael gyda un o goliau hawsaf ei yrfa.

Fe apeliodd Cymru am gic o’r smotyn ddeng munud yn ddiweddarach, ar ôl i Ramsey gael ei dynnu i lawr yn y cwrt cosbi wrth geisio dringo i benio tafliad hir, ond ni chwythodd Maurizio Mariani ei chwiban. Aeth y tafliad yr holl ffordd i Connor Roberts, gyda’i hanner foli yn hedfan ychydig heibio’r postyn.

Gydag ychydig llai nag ugain munud ar y cloc, dyblwyd mantais Cymru drwy Neco Williams. Torrodd Williams y tu mewn o’r chwith a thanio ergyd drwy dorf o amddiffynwyr Belarws, ac nid oedd Chernik wedi gallu gwneud digon i atal yr ergyd rhag croesi’r llinell.

Cafodd Belarws rai cyfleoedd yn yr hanner cyntaf, ond nid oedd yr un ohonynt wir wedi bygwth Danny Ward, ac fe’u cyfyngwyd i ergydion gobeithiol o’r tu allan i’r cwrt cosbi.

Ar ôl yr ail gôl, roedd cyfleoedd yn fwy prin i Gymru am weddill yr hanner cyntaf. Cafodd hanner foli gan Ramsey ei wyro i lwybr Neco Williams, a welodd ei ddwy ymdrech yn cael eu rhwystro.

Yn debyg iawn i’r hanner cyntaf, fe ddechreuodd Cymru’r ail hanner gyda chlec. Roedd pêl i mewn i’r cwrt cosbi yn amlwg wedi’i lawio gan Ruslan Yudenkov, gan roi cyfle i Ramsey ddyblu ei dali o’r smotyn. Ni wnaeth Ramsey unrhyw gamgymeriad, gan anfon Chernik i’r ffordd anghywir gydag ergyd hyderus i ochr chwith y gôl.

Parhaodd Cymru i fod ar y droed flaen ar ôl y gôl, ac roedd Brennan Johnson yn anlwcus i beidio ag ychwanegu at y sgor wedi iddo gyrraedd diwedd croesiad gan Neco Williams, ond cafodd ei ergyd ei rhwystro gan amddiffyn Belarws. Cafodd Connor Roberts gyfle euraid eiliadau’n ddiweddarach hefyd, pan syrthiodd cic gornel ato, ond cymerodd ei foli wyriad ac aeth dros y bar.

Roedd Roberts a Neco Williams wedi cyfuno eto i greu cyfle arall, ond hedfanodd hanner foli Roberts heibio’r postyn.

Gydag 20 munud yn weddill a’r fuddugoliaeth i yn ddiogel, fe wnaeth Cymru barhau i wthio i roi hwb i’w gwahaniaeth goliau. Fe lwyddodd Neco Williams i adennill y bêl yng nghanol cae a rhedodd yn glir o’r amddiffyn gan daro ergyd oedd yn cyrlio o ymyl y cwrt cosbi, ond aeth dros y trawst.

Er bod carreg filltir Bale wedi cymryd y penawdau, roedd gan Ben Davies garreg filltir ei hun, gan sgorio ei gôl ryngwladol gyntaf. Fe lwyddodd i gysylltu â chic cornel a phenio’r bêl adref – er bod y cyffyrddiad olaf i’w weld oddi ar ei ysgwydd!

Roedd Davies yn anlwcus i beidio ag ychwanegu ail gôl yn fuan wedi hynny, ond roedd Chernik wedi achub ei fflic ymlaen o gornel.

Cafodd Artem Kontsevoi gôl gysur i’w dîm yn y munudau olaf, ac er clod iddo dyma oedd gôl orau’r gêm. Roedd ei ergyd o ymyl y cwrt cosbi wedi cyrlio i mewn, gan adael Danny Ward yn sownd yn ei unfan.

Ond fe adferodd Cymru’r fantais o bedair gôl eiliadau’n unig yn ddiweddarach. Cafodd cic rydd Wilson o’r ystlys ei dargyfeirio i mewn gan Connor Roberts o ongl dynn, gan roi hwb arall i wahaniaeth goliau Cymru.

Yr unig blot ar berfformiad gwych i Gymru fel arall oedd carden felen i Ethan Ampadu. Bydd Ampadu nawr yn colli’r gêm yn erbyn Gwlad Belg ddydd Mawrth drwy waharddiad.

Fel mae’n sefyll, rhagwelir y bydd gan Gymru gêm gartref yn rownd cyn-derfynol y gemau ail gyfle, er y byddai buddugoliaeth i’r Alban dros Ddenmarc yn golygu y byddai angen i Gymru drechu Gwlad Belg ddydd Mawrth i sicrhau’r gêm gartref.


Rob Page names Gareth Bale in Wales squad despite lack of game time

The key new tactics from Wales in latest World Cup qualifiers


Seren y Gêm

Neco Williams – Cymru

Er nad yw Williams wedi chware llawer o funudau i Lerpwl hyd yn hyn y tymor hwn, yn sicr doedd Williams ddim yn brin o ffitrwydd. Rhedodd yn ddi-baid i fyny ac i lawr yr adain chwith, a chreodd ddigon o gyfleoedd gyda’i groesiadau cywir. Gwnaeth yn dda hefyd i gymryd ei gôl, gan saethu drwy fôr o amddiffynwyr.

Timoedd

Cymru: Danny Ward (Wayne Hennessey 90+1′), Connor Roberts, Ben Davies, Joe Rodon, Neco Williams, Ethan Ampadu, Aaron Ramsey (Joe Morrell 71′), Joe Allen, Daniel James (Tyler Roberts 76′) Harry Wilson, Gareth Bale (C) (Brennan Johnson 46′)

Eilyddion heb eu defnyddio: Adam Davies, Chris Gunter, Chris Mepham, Rubin Colwill, Sorba Thomas, Mark Harris, Will Vaulks, Jonny Williams

Goliau: Aaron Ramsey 3, 50 (t), Neco Williams 20, Ben Davies 77, Connor Roberts 89′

Cerdyn melyn: Ethan Ampadu 59′

Belarws: Sergei Chernik (C), Kirill Pechenin, Maksim Shvetsov, Nikita Naumov, Ruslan Yudenkov (Artem Kontsevoi 82′), Aleksandr Selyava, Nikolai Zolotov (Roman Yuzepchuk 71′), Evgeni Yablonski, Vitali Lisakovich (Ivan Bakhar 76′), Pavel Sedko (Dmitri Antilevski 60′), Vladislav Klimovich (Max Ebong 71′)

Eilyddion heb eu ddefnyddio: Yegor Khatevich, Pavel Pavluychenko, Gleb Shevchenko, Artem Sokol, Ivan Bakhar, Andrei Solovei, Ruslan Lisakovich, Denis Levitski

Gôl: Artem Kontsevoi 87′

Cardiau melyn: Nikolai Zolotov 25, Dmitri Antilevski 79, Max Ebong 83′

(Featured Image: Will Cheshire)

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.