March 28, 2024

Y Clwb Pêl-droed

Your home for Welsh domestic football!

Y Bala 1-2 Caernarfon: buddugoliaeth enfawr i’r Cofis yn Maes Tegid

Buddugoliaeth i’r Cofis ar ôl ymdrech cryf yn yr ail hanner yn erbyn y Bala.

Goliau hwyr gan Mike Hayes a Paulo Mendes enillodd Caernarfon y gêm.

Gêm heriol a chystadleuol oedd yn Maes Tegid  prynhawn Dydd Sadwrn yn y derby leol rhwng Y Bala a Caernarfon.

Cychwynoedd yr hanner cyntaf yn llawn brwdfrydedd a chryfder.

Ennillodd Bala cic rydd yn y munudau cyntaf y gêm drwy Ollie Shannon.

Gafodd Jack Mackreth siawns dda am y gôl cyn i Josh Tibbetts ddod allan yn glir am y bêl

Agorodd Bala y sgorio drwy Will Evans. Gafodd gic gornel ei gymryd gan Shannon gan fynd yn syth i ben Evans, a penniodd y bêl yn syth heibio Josh Tibbets gefn y gôl.

Gwaddod Tibbetts ail gôl i’r Lakesiders, hefo arbediad yn cadw cic rydd Chris Venables allan.

Croesodd Mackreth yr bêl i mewn i lwybr Venables, ond peniodd yn llydan.

Anafoedd Raul Correira arweinodd i Henry Jones i ddod ‘mlaen,

Cafodd Henry Jones ei dynnu allan ar yr ochr chwith ac yn ennill cic rydd mewn safle da.

Roedd Bala yn chwarae’n gryf ac yn gyson , ond rhedodd bêl olaf i ddwylo Tibbetts.

Angosodd Kieran Smith ymdrech dda, wrth i’r bêl eistedd i fyny’n braf iddo ar ymyl y bocs, ond oedd ei ymdrech am y tro cyntaf yn twyllo’n llydan

Gorffenodd yr hanner cyntaf yn un gôl i ddim I’r Bala.

Chwaraeodd y ddau dîm yn gyfforddus iawn y hanner cyntaf,roedd y Bala yn fwy hyderys yn yr ugain munud cyntaf gan i Gaernarfon codi y her i’r Bala erbyn diwedd y hanner cyntaf gyda cyflymder arbennig y chwaraewr ifanc Caernarfon, Telor Williams.

Cychwynoedd yr ail hanner mewn ffordd ora’ posib i Gaerarfon gyda’r pass arbennig Paulo Mendes i Mike Hayes. Casglodd Hayes yr bêl cyn creu le iddo ei hun ar y cae gan cicio’r pel i rhan uchaf y rhwyd heibio Alex Ramsey gyda’i droed chwith. Dyma oedd 6ed gôl Mike Hayes y tymor yma.

Cymerodd Henry Jones cic-rydd, ond gafodd yr bêl ei blockio gan Sion Bradley.

Cymerodd Will Evans ergyd ar y gôl ond gafodd ei ddal, gan i Josh Tibbets mynd i lawr ar draws y gôl i atal yr ergyd.

Cafodd Antony Kay ergyd gyda hanner foli o bell, ond aeth yr bêl allan.

Daeth gôl ail y Cofis drwy Mendes hefo 20 munud ar ôl ar y cloc. Croesodd Noah Edwards y bêl yn syth i ganol y bocs gan gael ei tharo yn syth mewn i’r gôl gan Mendes. Ar ôl fod ar ei hôl hi hanner cyntaf roedd Caernarfon bellach  ar y blaen!
 

 Methodd Cai Jones siawns ar ôl gael ei rhoid mewn gan pas Max Cleworth.
Roedd Caernarfon yn chwarae’r gêm yn dechnegol glyfar gyda’r tîm yn gweithio gyda’i gilydd yn dynn erbyn diwedd amser.

Roedd Bala dal yn y gêm ac yn fywiog tan y munudau olaf  gan i Nathan Peate methu gôl agos iawn, roedd y tîm dal yn wneud cyfleoedd nes at y chwiban olaf!

Gorffennodd y gêm gystadleuol gyda’r fuddugoliaeth i  Gaernarfon ,thripwynt pwysig i dîm Huw Griffiths.

Bydd Caernarfon yn parhau i geisio cyrraedd y chwech uchaf  gyda’r gêm penwythnos nesa’ yn yr Oval yn erbyn Met Caerdydd.

Mae’r Bala yn ymweld â’r Barry penwythnos nesaf.

Y Bala: Alex Ramsay, Sean Smith, Nathan Peate, Will Evans (Lassana Mendes 73′), Raul Correia (32′), Kieran Smith, Anthony Kay, Jack Mackreth, Chris Venables (C), Oliver Shannon (Ryan Pryce 73′).

Gôl: Will Evans (16′)

Caernarfon: Josh Tibbetts, Gareth Edwards (C), Sion Bradley, Paulo Mendes, Mike Hayes (Jake Bickerstaff 69′), Noah Edwards, Ryan Williams, Telor Williams, Mike Parker, Jack Kenny (Cai Jones 69′), Max Cleworth.

Goliau: Mike Hayes (47′), Paulo Mendes (70′).

(Featured Image: Virtual Wales)

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.