May 2, 2024

Y Clwb Pêl-droed

Your home for Welsh domestic football!

Aberystwyth 1-3 Port Talbot: Perfformiad ail hanner yn sicrhau’r triphwynt i’r Gleision

Daeth Tref Port Talbot o’r tu ôl i sicrhau fuddugoliaethau cefn wrth gan guro Aberystwyth o 3-1 ym Mharc Avenue.

Aeth y Gleision ar ei hôl hi yn gynnar yn yr ail hanner gydag ymosodwr Aberystwyth Libby Isaac yn sgorio, ond ymatebodd Port Talbot yn gampus.

Trodd goliau cyflym gan Lauren Amor a Rachael Ball y gêm o blaid Port Talbot.

Mewn gêm gystadleuol, bu’r tîm cartref chwilio am gôl i gyfartalu’n hwyr, ond cafwyd eu gwrthod gan berfformiad amddiffynnol cadarn gan yr ymwelwyr.

Wrth i Aberystwyth taflu cyrff ymlaen, gwnaeth ymosodwr y Gleision Courteney Thomas yn siŵr o’r fuddugoliaeth gydag ergyd hwyr.

Mae’r fuddugoliaeth yn gweld y Gleision yn codi i bumed yn nhabl yr Uwch Gynghrair, uwchben Menywod Cyncoed, a ildiodd i golled o 6-0 i arweinwyr y gynghrair, Abertawe.

Mae tîm Andrew Evans yn aros yn seithfed yn y tabl, ond mae’r bwlch rhyngddynt a’r chweched safle’n cael ei ymestyn i saith pwynt.

Dechreuodd y gwesteion yn llachar, wrth i Lucie Gwilt chwarae’r bêl y tu ôl yr amddiffyn i Eloise Jenkins, a orfododd arbediad cynnar allan o golwr Port Talbot, Victoria Beddows.

Parhaodd Aberystwyth â’u cychwyn gadarnhaol, wrth i’r capten Caroline Cooper ganfod Bethan Roberts ar ymyl y cwrt, ond arbedwyd ei ymdrech gan Beddows.

Tyfodd yr ymwelwyr i’r ornest a daeth iddynt, wrth i Courteney Thomas gwrdd â gic cornel, ond casglwyd ei foli gan Ffion Ashman.

Mewn cyfnod agoriadol heb gyfleoedd clir, roedd amddiffynfeydd y ddwy ochr yn cyfyngu eu gwrthwynebwyr i hanner cyfloedd yn unig.

Roedd asgellwr Aberystwyth Jenkins yn edrych yn fywiog ac yn dangos parodrwydd i redeg y tu ôl i’r amddiffyn.

Wrth iddi gael ei ddarganfod gyda phêl dros yr amddiffyn, cafodd hi ei wrthod siawns i saethu gan dacl gref y capten Chelsey Harris.

Cafodd tîm Evans ymosodiad gadarnhaol arall yn fuan wedyn, ond fe wnaeth chwaraewr canol cae Port Talbot atal sefyllfa tair ar un gyda thacl wych, gan sicrhau bod y ddwy ochr yn mynd i mewn i’r egwyl yn ddi-sgôr.

Yn debyg iawn i’r hanner cyntaf, cychwynnodd Aberystwyth yn dda ac yn gweld llwyddiant wrth redeg y tu ôl i amddiffyn y Gleision, wrth iddyn nhw fynd ar y blaen yn y 49fed munud.

Curodd y ymosodwr Tania Wylde y golwr Beddows i’r bêl a dod o hyd i Isaac, a basiodd i rwyd wag i agor y sgorio.

Ymatebodd Port Talbot yn wych ac roeddent ar ei hôl hi am pum munud unig, gyda gôl i gyfartalu’n dod yn y 54fed munud.

Cafodd Amor ei ganfod ar y postyn cefn i droi’r bêl yn emffatig heibio Ashman, wrth i’r ymwelwyr lefelu’r sgôr.

Parhaodd tîm Hayley Williams â’u hymateb campus, wrth iddyn nhw fynd ar y blaen pum munud wedyn.

Cafodd chwaraewr canol cae Port Talbot, Rachael Ball, a oedd yn ddylanwadol trwy’r gêm, beniad rydd i bweru fewn i’r rhwyd.

Er bod Aberystwyth wedi colli’r fantais, parhaodd y tîm cartref i bwyso a chwilio am gôl i gyfartalu.

Roedd amddiffyn Port Talbot, dan arweiniad Harris a Terri Beddows yn gadarn i gyfyngu cyfleoedd i saethu.

Llwyddodd Jenkins i ganfod lle y tu ôl i linell gefn y Gleision ond ergydiodd yr asgellwr heibio’r postyn.

Wrth i Aberystwyth chwilio am ffordd nôl yn y gêm, fe ddechreuodd bylchau ymddangos i Port Talbot Town ymosod arni.

Daeth yr asgellwr Amor o hyd i le ar ymyl y bocs, ond roedd arbediad da gan Ashman yn ymateb â’i hymdrech at y gôl.

Aeth y Gleision yn agos eto trwy Maisie Miller a oedd yn ddylanwadol, ond fe wnaeth ei hymdrech wych o bellter daro’r postyn.

Er hynny, na chafodd Port Talbot ei wrthod trydydd gôl wrth i ergyd Miller ar y gwrthymosodiad gael ei arbed allan i Thomas, a ergydiodd mewn i gôl agored i selio’r triphwynt.

Mae tîm Williams yn gwynebu Briton Ferry Llansawel yn eu gêm nesaf, tra bod Aberystwyth yn croesawu Met Caerdydd.

Aberystwyth: Ffion Ashman, Bethan Roberts, Caroline Cooper (C), Libby Isaac, Tania Wylde (Charlotte Chalmers 59 ‘), Caryl Evans (Kelly Thomas 66’), Dwynwen Davies (Niamh Duggan 45 ‘), Lucie Gwilt, Flavia Jenkins , Josie Pugh, Eloise Jenkins

Goliau: Libby Isaac 49 ’

Port Talbot: Victoria Beddows, Carys Davies, Laura-may Walkley, Terri Beddows, Chelsey Harris (C), Rachael Ball, Courteney Thomas, Lauren Amor, Jess Denscombe, Nia Probert, Maisie Miller

Goliau: Lauren Amor 54 ’, Rachael Ball 59’, Courteney Thomas 86’

(Credyd Llun: Chris Howells)

1 thought on “Aberystwyth 1-3 Port Talbot: Perfformiad ail hanner yn sicrhau’r triphwynt i’r Gleision

  1. Good morning.

    Thank you for the excellent match report.

    Thanks to george julian 619 who I was with at BFL on Thursday. I hope he received the Welsh Premier Times that I forwarded to him.

    Kind regards,

    Robert Clement

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.