May 7, 2024

Y Clwb Pêl-droed

Your home for Welsh domestic football!

Y Drenewydd 1-5 Nomadiaid Cei Connah: Perfformiad ail hanner yn selio triphwynt arall i’r arweinwyr

20/03/2021 - Connah's Quay Nomads 2-0 Haverfordwest County © Nikitas Mesney

Daeth Nomadiad Cei Connah o’r tu ôl i guro’r Drenewydd gyda buddugoliaeth o 5–1 ym Mharc Latham.

Er i’r Nomadiad gwympo ar ei hôl hi gyda gôl gynnar gan ymosodwr y Drenewydd, Jamie Breese, ymatebodd yr ymwelwyr yn gampus, wrth i Craig Curran ddod o hyd i gôl i gyfartalu.

Roedd perfformiad tîm Andy Morrison yn yr ail hanner yn gryf, gyda goliau Neil Danns a Callum Morris yn eu rhoi nhw’n safle bwerus.

Mi wnaeth goliau hwyr gan Michael Wilde a Jamie Insall i’r Nomadiaid y sgôr yn drymach, wrth iddyn nhw selio triphwynt arall.

Mae’r fuddugoliaeth yn golygu bod arweinwyr y gynghrair yn recordio 57 pwynt ar ddiwedd Cyfnod Un, tair pwynt o flaen y Seintiau Newydd, a hawliodd fuddugoliaeth o 4-1 dros Caernarfon.

Er i’r Drenewydd gystadlu am rannau helaeth o’r gêm, ildiodd y Drenewydd i’w 12fed golled o’r tymor, wrth iddynt gwympo o dan Aberystwyth Town, a sicrhaodd fuddugoliaeth o 3-1 dros Derwyddon Cefn.

Daeth y gêm i fywyd yn sydyn wrth i’r Drenewydd daro ar y gwrthymosodiad i agor y sgorio gyda tair munud yn unig ar y cloc.

Llwyddodd yr ymosodwr Breese i ganfod lle y tu ôl i amddiffyn Cei Connah ac ergydiodd yn daclus heibio Oliver Byrne ar gyfer y gôl agoriadol.

Er i dîm Morrison gwympo ar ei hôl hi, ymatebodd yr ymwelwyr yn gampus ac aeth yn agos at gôl i gyfartalu’n syth.

Daeth yr ymosodwr Curran o hyd i le yn y cwrt i osod y bêl i ffwrdd i chwaraewr canol cae profiadol Danns a darodd y postyn gyda’i hergyd. 

Parhaodd yr ymwelwyr i roi pwysau ar y Drenewydd a daeth gôl i lefelu’r sgôr yn yr 20fed munud.

Daeth tafliad hir i mewn i’r cwrt a ddisgynnodd i Curran, a droiodd y bêl heibio Dave Jones i dynnu arweinwyr y gynghrair yn lefel.

Ymatebodd y Drenewydd yn dda i gôl Cei Connah, wrth iddynt barhau i frwydro gyda Nick Rushton yn croesi’n wych tuag at Breese a fethod gyda pheniad.

Parhaodd y Nomadiaid i greu cyfleoedd fodd bynnag, wrth i’r bêl ddisgyn yn garedig i Danns yn y cwrt, ond taniodd y chwaraewr canol cae dros y bar.

Roedd tîm Hughes yn parhau i frwydro’n dda gydag arweinwyr y gynghrair, wrth i’r ddwy ochr fynd i’r egwyl gyda sgôr o 1-1.

Dechreuodd y Nomadiaid yr ail hanner yn llachar gan orfodi cyfle cynnar, wrth i Curran groesi’n dda i Aron Williams, a fethodd gyda’i beniad.

Yn debyg iawn i’r hanner cyntaf, profodd y Drenewydd eu bod yn gallu cystadlu ag arweinwyr y gynghrair gan greu cyfle eu hunain.

Cafwyd hyd i Breese mewn lle ar ymyl y cwrt, ond taniodd yr ymosodwr heibio’r postyn.

Fe ddangosodd ochr Morrison eu dawn fodd bynnag, wrth iddyn nhw roi eu hunain ar y blaen yn y 63ain munud.

Cododd Danns y bêl dros Jones a phenio mewn i rwyd wag i roi’r Nomadiaid ar y blaen.

Parhaodd yr ymwelwyr i greu cyfleoedd, gan gwneud i’r pwysau gyfri, wrth iddyn nhw ychwanegu at eu mantais yn y 75fed munud.

Gyda tafluad hir Williams i mewn i’r cwrt, cafodd George Horan ei droseddu, gyda Callum Morris yn sgorio’r gic o’r smotyn yn emffatig i ychwanegu’r trydydd.

Yn mynd fewn i’r pum munud olaf, cafodd ymosodwr y Nomadiad, Wilde, a achosodd problemau drwy’r gêm, ei hun ar y ddalen sgorio, gan benio croesiad wych Kris Owens fewn i’r rhwyd.

Yn amser ychwanegol, cyfunodd eilyddion Aeron Edwards a Jamie Insall gyda’r ymosodwr yn penio heibio Jones am y pumed gôl.

Y Drenewydd: Dave Jones, Jake Phillips, Jack Kelly, Sean McAllister (Alex Fletcher 61′), Kieran Mills-Evans (C), James O’Neill (Jordan Evans 82′), Nick Rushton (Lifumpa Mwandwe 82′), Jamie Breese, Tyrone Ofori (James Davies 75′), George Hughes (Ryan Edwards 82′), Shane Sutton

Goliau: Jamie Breese 3’

Nomadiaid Cei Connah: Oliver Byrne, George Horan (C), Danny Harrison (Aeron Edwards 61′), Callum Morris, Michael Wilde, Neil Danns, Danny Holmes, Kris Owens, Craig Curran (Jamie Insall 61′), Aron Williams, Danny  Davies (Johnny Hunt 75′)

Goliau: Craig Curran 20 ’, Neil Danns 63’, Callum Morris 75’, Michael Wilde 85’, Jamie Insall 90’

Cardiau Melyn: Michael Wilde 53’

(Credyd Llun: Nikitas Mesney)

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.