May 5, 2024

Y Clwb Pêl-droed

Your home for Welsh domestic football!

Nomadiaid Cei Connah 2-2 CPD Alashkert: George Horan yn dod i’r achub i’r Nomadiaid

George Horan of Connahs Quay celebrates scoring his sides second goal. Connahs Quay v FC Alashkert in the UEFA Champions League first qualifying round at Park Avenue on the 7th July 2021. Credit: Lewis Mitchell

Dangosodd Nomadiaid Cei Connah gymeriad i hawlio gêm gyfartal o 2-2 yn erbyn pencampwyr Armenia Alashkert yng Nghoedlan y Parc.

Dechreuodd y Nomadiaid yn glinigol wrth i Craig Curran benio i fewn i’r rhwyd o’u hymosodiad peryglus gyntaf.

Ymatebodd Alashkert yn gampus fodd bynnag wrth i David Khurtsidze sgorio ddwywaith ar ei ymddangosiad gyntaf i’r clwb.

Daeth y capten i’r achub i dîm Andy Morrison gyda George Horan yn rhwydo gôl i gyfartalu’n hwyr.

Bydd y Nomadiaid nawr yn teithio i Armenia i wynebu Alashkert ar 14 Gorffennaf, gyda goliau i ffwrdd ddim yn arwyddocaol.

David Khurtsidze of FC Alashkert in action. Connahs Quay v FC Alashkert in the UEFA Champions League first qualifying round at Park Avenue on the 7th July 2021. Credit: Lewis Mitchell

Cynchwynnodd yr ymwelwyr yn ymosodol, gyda asgellwyr James a David Davidyan yn achosi problemau cynnar gyda chroesiadau peryglus.

Roedd Alashkert yn rheoli meddiant yn gynnar, ond roedd y Nomadiaid yn wrthsefyll y pwysau.

Cafodd dynion Morrison eu gwobrwyo am eu disgyblaeth, wrth iddyn nhw fynd ar y blaen gyda’u hymosodiad peryglus gyntaf.

Croesodd Jamie Mullan yn gampus ar ei ymddangosiad cyntaf i’r clwb i ddod o hyd i Curran ar y postyn cefn, a beniodd i mewn i’r rhwyd yn y 19eg munud.

Ymatebodd pencampwyr Armenia yn syth fodd bynnag, gyda mantais y Nomadiaid yn para dau funud yn unig.

Daeth Khurtsidze o hyd i le ar y dde i yrru ymdrech bwerus heibio Oliver Byrne ac i’r gornel isaf i lefelu’r sgorio.

Ar ôl lefelu’r sgôr, rhoddodd yr ymwelwyr lawer o bwysau ar y Nomadiaid, gyda nifer o ymosodiadau ddyfeisgar.

Parhaodd James i achosi problemau ar y chwith, wrth iddo ganfod lle i groesi, ond nid oedd yn gallu canfod yr ymosodwr Embaló.

Yn agosáu at hanner amser, cafodd yr ymwelwyr eu gwobrwyo am y pwysau wrth i Alashkert fynd ar y blaen.

Gorffennwyd croesiad capten Artak Grigoryan gan Khurtsidze, a orffennodd yn emffatig am ei ail gôl ar ei ymddangosiad cyntaf i bencampwyr Armenia.

Aeron Edwards of Connahs Quay in action. Connahs Quay v FC Alashkert in the UEFA Champions League first qualifying round at Park Avenue on the 7th July 2021. Credit: Lewis Mitchell

Er gwaethaf dechrau gadarnhaol gan y Nomadiaid, ymatebodd pencampwyr Armenia yn gampus i selio’r fantais ar yr egwyl.

Cadwodd dîm Aleksandr Grigoryan meddiant yn yr ail gyfnod, ond ni alwyd golwr Nomads, Byrne, i weithredu’n reolaidd.

Trodd Morrison at ei fainc i ganfod ffordd nôl fewn i’r ornest, gan gyflwyno Aeron Edwards a Kris Owens, gyda Thomas Moore yn cymryd lle Danny Holmes wedi’i anaf.

Parhaodd yr ymwelwyr i bwyso am drydydd gôl fodd bynnag, gyda’r eilydd Artak Edigaryan yn mynd yn agos o bellter.

Dangosodd y Nomadiaid eu cymeriad yn yr ail hanner, wrth iddyn nhw ddod o hyd i gôl i gyfartalu yn y 79fed munud.

Syrthiodd y bêl yn y cwrt i’r capten Horan, a droiodd y bêl heibio Cancarevic lefelu’r sgorio.

Cafodd dynion Morrison gyfle hwyr i ddod o hyd i gôl fuddugol, wrth i’r eilydd Kris Owens ganfod lle ar y chwith ond fe fethodd Michael Wilde gyda’i groesiad.

Aeth Alashkert yn agos hefyd, gydag Edigaryan yn tanio gyda gic rydd o bellter.

Ar ôl haeddu gêm gyfartal yng Nghoedlan y Parc, bydd y Nomadiaid nawr yn gwynebu Alashkert yn yr ail gêm ddydd Mercher nesaf.

Connah’s Quay Nomads: Oliver Byrne, John Disney, George Horan, Danny Holmes (Thomas Moore 57’), Callum Morris, Jay Owen (Aeron Edwards 45’), Danny Harrison (Kris Owens 45’), Declan Poole, Jamie Mullan (Aron Williams 90’), Mike Wilde, Craig Curran

Goliau: Craig Curran 19’, George Horan 79’

FC Alashkert: Ognjen Cancarevic, James, Dejan Boljevic, Didier Kadio, Taron Voskanyan, Tiago Cametá, David Davidyan (Branko Mihajlovic 90’), Artak Grigoryan, Rumyan Hovsepyan (Artak Edigaryan 67’), David Khurtsidze, José Embaló (Aleksandar Glišic 67’)

Goliau: David Khurtsidze 21’, 45’

(Credyd Llun: Lewis Mitchell)

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.