May 7, 2024

Y Clwb Pêl-droed

Your home for Welsh domestic football!

Leo Smith: Gwynebau newydd wedi bod yn fudd i’r Seintiau Newydd

The New Saints 5-1 Kauno Žalgiris in the Europa Conference League at Park Hall on the 29th July 2021. Credit: Will Cheshire/YCPD

Mae chwaraewr canol cae’r Seintiau Newydd, Leo Smith, wedi canmol yr effaith mae’r gwynebau newydd wedi cael ar y garfan. 

Yn paratoi at ei dymor llawn gyntaf fel hyfforddwr Y Seintiau Newydd, mae Anthony Limbrick wedi arwyddo Danny Davies o Nomadiaid Cei Connah, Jordan Williams o Stockport County, Declan McManus o Dunfermline Athletic ac Ash Baker o Gasnewydd.

Yn yr ymgyrch Cynghrair Gynhadledd Ewropa hyd yn hyn, mae’r Seintiau wedi oresgyn Glentoran, cyn selio fuddugoliaeth gyfforddus o 10-1 yn erbyn FK Kauno Žalgiris.

Mae’r chwaraewyr newydd wedi gwneud argraff cyflym, gyda Davies yn sgorio tair ers ymuno a Williams yn rhwydo unwaith.

Yn erbyn Glentoran, cafodd McManus ei hun ar y ddalen sgorio am y tro cyntaf dros ei glwb newydd, cyn sgorio yn y ddwy gêm yn erbyn FK Kauno Žalgiris.

Mae Smith yn teimlo fod y recriwtio wedi gwneud lles fawr i garfan y Seintiau.

“Dwi’n meddwl bod nhw wedi dod ag ansawdd i’r clwb. Mae nhw wedi ychwanegu i beth oedd ganddyn ni o’r blaen ac mae hynny’n mynd i wella ni fel tîm. Mae’r ansawdd sydd o’m mlaen i’n gwneud y gêm llawer yn haws i mi. 

“Efallai dyna oedden ni’n diffyg tymor diwethaf oedd cael dau chwaraewyr o ansawdd ymhob safle ar y cae a dyna sydd gynnon ni blwyddyn yma. 

“Mae hynny mor bwysig yn mynd fewn i gemau Ewropeaidd ac yn enwedig yn y Cymru Premier hefyd.”

Mae’r ymgyrch hefyd wedi bod yn un nodedig iawn gan Smith yn bersonol, gyda phedair gôl yn dod o’r chwaraewr greadigol.

Mynega Smith ei fod yn teimlo’n llawn hyder ac yn benderfynol o smentio lle yn yr unarddeg gychwynnol.

“Dwi’n teimlo fel dwi di dechrau’n grêt. Dyna dwi angen neud i ddangos i bobl fy mod i’n haeddu dechrau a dwi’n gobeithio bod pawb arall yn gallu gweld hynny hefyd.

“Dwi’n meddwl bod y ddau dîm bod ni wedi chwarae yn dimau o safon, yn dimau mawr. 

“Roedd y gêm gynta yn erbyn Glentoran bach yn fwy agos ond yn y gêm yn erbyn Kauno Žalgiris, oedden nhw’n dîm da hefyd ac oedd o’n gêm anodd, ond oedden ni mor glinigol.”

Un nodwedd galonogol o berfformiadau’r Seintiau ydy’r cysylltiad a’r dealltwriaeth rhwng Smith ac yr ymosodwr newydd, McManus.

Eglurodd Smith fod yr ychwanegiad o McManus i’r tîm wedi bod yn fudd iddo fo.

“Fyse pobl yn gallu gweld efo’r ddau gôl dwi wedi sgorio, mae Declan wedi dal y bêl i fyny ac mae hynny wedi gweithio’n dda. 

“Mae o’n gwybod lle i roi’r bêl pan dwi’n neud rhediadau felly mae o wedi bod yn grêt.

“Mae’r chwaraewyr newydd i gyd wedi cael ei goliau gyntaf i’r clwb sydd yn bwysig, yn enwedig i Declan fel ymosodwr. 

“Yn arwyddo i glwb newydd, yn enwedig gyda’r ffordd dani’n chwarae, efallai fyse fo’n cymryd fwy o amser iddo fo setlo fewn, ond mae o wedi bod yn grêt ac yn bositif i weld y chwaraewyr newydd eraill yn sgorio hefyd.”

Nesaf i’r Seintiau Newydd yw her enfawr yn erbyn Viktoria Plzen o Weriniaeth Tsiec, gyda’r gêm yn cael ei chwarae’n Stadiwm Dinas Caerdydd.

Er i sialens anodd wynebu’r Seintiau, mynnodd Smith ei fod wedi gynhyrfu gan yr achlysur.

“Yn bersonol, dwi’n edrych ymlaen yn fawr. Dwi di chwarae yn Wrecsam mewn stadiwm fawr ond dim ond wedi bod yn gwylio Cymru yn Stadium Dinas Caerdydd felly bydd o reit sbesial i fi’n bersonol chwarae yna.

“Dani i gyd yn disgwyl gêm llawer anoddach nag unrhyw gêm dani wedi chwarae blwyddyn yma, ond efo’r ffordd dani wedi bod yn chwarae, dani i gyd yn bositif gallen ni gael rhywbeth.”

(Credyd Llun: Will Cheshire)

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.