May 20, 2024

Y Clwb Pêl-droed

Your home for Welsh domestic football!

Tref Aberystwyth 2-1 Y Barri: Cic rydd Mathew Jones yn selio fuddugoliaeth ddramatig i’r westeiwyr

Aberystwyth Town 3-1 Flint Town United. © Colin Ewart

Cychwynnodd Tref Aberystwyth eu hymgyrch Cymru Premier yn berffaith gyda buddugoliaeth ddramatig o 2-1 dros y Barri yng Nhoedlan y Parc.

O flaen cefnogwyr y Seasiders a ddychwelodd i wylio, yn ogystâl â chefnogaeth cryf y Barri, fe aeth y westeiwyr ar ei hôl hi gydag ergyd Marcus Day, dim ond i gol gan Sam Phillips a chic rydd Mathew Jones yn y funud olaf sicrhau buddugoliaeth enfawr ar y diwrnod agoriadol.

Mae’r triphwynt yn nodi dechrau llwyddiannus i dymor llawn cyntaf Antonio Corbisiero fel rheolwr y clwb, ar ôl i Gavin Allen adael tymor diwethaf.

Mae’r Linnets, a fydd yn edrych i bownsio’n ôl o siom y llynedd o golli yn y gemau ail gyfle Ewropeaidd i Dref Caernarfon, yn dechrau’r tymor gyda cholled.

Dechreuodd y Barri ar y droed flaen ac aeth yn agos at gymryd y fantais yn y pum munud agoriadol.

Croesodd y cefnwr dde Luke Cummings yn rhagorol i Nat Jarvis bweru pennawd tuag at y gôl, dim ond iddo gael ei wrthod gan arbediad gwych gan y recriwt newydd Gregor Zabret.

Roedd Jarvis yn ddylanwadol eto, gan iddo gael ei ddarganfod yn y blwch gan Chris Hugh, ond ni allai gyfarwyddo ei beniad at y gôl.

Tyfodd y Seasiders i’r ornest a chreuwyd siawns eu hunain wrth ganfod llawenydd ar y dde trwy Jack Rimmer.

Curodd y cefnwr Hugh i’r bêl a sgwario i Phillips yn y blwch, ond arbedwyd ei ymdrech gan Mike Lewis mewn cyfle enfawr i gymryd y fantais.

Cosbodd y Barri y westeiwyr am fethu â chymryd eu cyfle, wrth iddynt selio’r fantais yn y 23ain munud.

Peniodd yr ymosodwr Kayne McLaggon yn ôl ar draws y cwrt ar gyfer Day, a oedd yn fywiog, a ergydiodd heibio Zabret.

Ymatebodd Aberystwyth yn dda i syrthio ar ei hôl hi ac aeth yn agos i gyfartalu, wrth i gic rydd ddod o hyd i Phillips yn y blwch, ond cafodd yr asgellwr ei wrthod unwaith eto gan arbediad gwych gan Lewis yn erbyn ei gyn glwb.

Fodd bynnag, ni gafodd y Seasiders eu gwrthod, wrth iddynt ddod o hyd i’r cyfartalwr yn y 44fed munud.

Daeth Owain Jones o hyd i Mathew Jones ar y chwith a groesiodd yn ragorol i Phillips rwydo.

Yn debyg iawn i’r hanner cyntaf, cychwynnodd y Barri yr ail gyfnod trwy greu cyfle i sgorio.

Cafodd Luke Cooper ei ben ar groesiad Day o gic rydd, gan orfodi arbediad gan Zabret.

Roedd ochr Corbisiero yn parhau i fod yn berygl ar y gwrthymosodiad ac aeth yn agos i fynd ar y blaen.

Arweiniodd toriad gyflym gan Owain Jones at Rimmer yn dod o hyd i le i danio at y gôl, dim ond i Lewis arbed unwaith eto.

O’r gornel a ddeilliodd o hynny, cyfarfu danfoniad Mathew Jones gan Rhys Davies ar y postyn cefn, ond nad oedd yn gallu cysylltu’n lân â’r pennawd.

Galwyd Lewis i weithred unwaith eto, wrth i Owain Jones gael ei ddarganfod ar yrion y cwrt i saethu, ond cafodd Lewis ei law i’r ergyd unwaith eto.

Gwthiodd y ddwy ochr am gôl fuddugol yn hwyr. Croesodd cefnwr dde Barry, Cummings, i McLaggon yn y blwch, ond nad oedd yn gallu cyfeirio’r bêl i’r gôl.

Aeth yr eilydd Aron Davies yn agos at gael effaith wrth iddo edrych i chwarae Theo Wharton fewn, ond roedd y pas i chwaraewr ryngwladol St Kitts a Nevis ychydig yn rhy drwm.

Yn y funud olaf, cafodd Aberystwyth Town gyfle enfawr i sicrhau buddugoliaeth ddramatig, wrth i John Owen guro Lewis i’r bêl, ond ni allent ddod o hyd i’r rhwyd.

Daeth y Seasiders o hyd i enillydd ddramatig fodd bynnag, wrth i Mathew Jones gamu i fyny gyda chic rydd wych i roi Aberystwyth ar y blaen yn hwyr.

Bu bron i’r Barri gyfartalu yn y funud olaf gyda nifer o saethiadau ar darged, ond goroesodd y Seasiders y perygl.

Mae Tref Aberystwyth bellach yn gwynebu’r her anodd o deithio i wynebu’r pencampwyr, Nomadiaid Cei Connah, tra fod y Barri yn croesawu’r Bala yn eu gêm nesaf.

Tref Aberystwyth: Gregor Zabret, Jack Rimmer, Rhys Davies, Lee Jenkins, Jack Thorn (C), Mathew Jones, Jamie Veale, John Owen, Harry Franklin, Sam Phillips, Owain Jones (Alex Darlington 80’)

Goliau: Sam Phillips 44’, Mathew Jones 90’

Barry Town United: Mike Lewis, Luke Cummings, Chris Hugh, Robbie Patten (Aron Davies 74′), Kayne McLaggon (C), Nat Jarvis, Marcus Day (Jordan Cotterill 74′), Theo Wharton (Callum Sainty 85 ‘), Curtis McDonald, Luke Cooper, Clayton Green

Goliau: Marcus Day 23’

Cardiau Melyn: Callum Sainty 90’

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.