May 20, 2024

Y Clwb Pêl-droed

Your home for Welsh domestic football!

Jake Phillips: Chwech uchaf yw’r nod i’r Fflint ar ôl cryfhau dros yr haf

15/05/2021 - Cardiff Met 2-1 Flint Town United © Carl Robertson

Ar ôl buddugoliaeth drawiadol o 5-1 yn erbyn Met Caerdydd ar ddiwrnod cyntaf y tymor, uchelgais Y Fflint y flwyddyn hon yw cystadlu am y chwech uchaf, dywed y cefnwr Jake Phillips.

Gorffennodd tîm Neil Gibson yn 11fed yn y Cymru Premier tymor diwethaf, gan recordio deg o fuddugoliaethau, dwy gêm gyfartal a 20 golled. 

Er hynny, mae busnes Gibson dros yr hâf wedi bod yn gadarnhaol iawn, gan ddod â chwaraewyr fel Michael Wilde, Danny Harrison a Jack Kenny i’r clwb.

Gyda Phillips hefyd yn ymuno, credai’r cefnwr bod gan Y Fflint y gynhwysion i gystadlu am y chwech uchaf. 

“Dwi’n meddwl os wyt ti’n edrych ar beth wnaeth y tîm ar ddiwedd tymor diwethaf, dwi meddwl dim ond tri colled gafon nhw yn y chwech isaf. 

“Mae hynny’n dweud bod y garfan yn iawn ac oedd yn gallu cystadlu gyda’r chwech isaf. Ond mae’r clwb eisiau mynd i’r lefel nesaf, dyna ydy’r gobaith, ein bod ni’n gallu cystadlu gyda’r timau yn y chwech uchaf. 

“Roedd angen cryfhau’r garfan ond mae na pump neu chwech chwaraewr newydd sydd wedi dod fewn a dani’n gobeithio ein bod ni’n gallu helpu i godi ni yn sicr allan o’r ddwy safle olaf, ond hefyd cystadlu am y chwech uchaf. 

“Gyda’r arwyddion dani wedi gwneud. Ein gobaith ni yw ein bod ni’n un o’r timau sydd yn gorffen yn y chwech uchaf ar ddiwedd y split.”

Ymunodd Phillips â’r Fflint o’r Drenewydd. Er i’r Frongochiaid selio llwyddiant ar ddiwedd y tymor gan ennill y gemau ail-gyfle, chwaraeodd y cefndwr-dde 23 gêm yn unig.

Gobeithia’r amddiffynwr 24 oed fod ei symudiad i’w glwb newydd yn mynd i ddod â fwy o amser ar y cae. 

“Y nod yw cael fwy o funudau. Does na ddim clwb lle mae munudau ar y cae yn sicr, ond y rheswm dwi wedi symud ydy’r gobaith yna fy mod i’n gallu chwarae’n fwy reolaidd. 

“O be dwi wedi gwneud yn y cyn-dymor a chael gêm lawn yn y gêm gyntaf, mae’n edrych yn bositif i fi’n bersonol.

“Mae’n rhaid i mi sicrhau fy mod i’n gwneud swydd i’r tîm i gadw fy lle gan fod y garfan mae Neil Gibson wedi llwyddo i gael yn un gryf iawn, felly os dwi ddim yn perfformio, na fyddai’n cadw fy lle’n hawdd iawn.”

Cychwynnodd Y Fflint eu hymgyrch yn drawiadol iawn, gan guro Met Caerdydd o 5-1. 

Cafodd Jack Kenny, Callum Bratley a Connor Harwood eu hun ar y ddalen sgorio, yn ogystâl â ddwy gôl gan Michael Wilde. 

Teimlai Phillips for y cychwyn gadarnhaol i’r tymor yn ddymunol iawn, ond mae’r sylw’n troi’n gyflym at eu gêm nesaf.

“Roedd y perfformiad hanner cyntaf yn iawn. Roedd Met Caerdydd wedi achosi ni ychydig o broblemau, ond unwaith gafon ni’r gôl gyntaf yna gan Jack Kenny, wnaethon ni setlo. 

“Ar ôl hynny, ddaru ni barhau i chwarae ac roedd ychydig fwy o hyder i gael fwy o goliau. Yn y diwedd, roedden ni braidd yn siomedig i ildio gôl. Byddai llechen lân wedi bod yn grêt, ond dani’n hapus i fynd lawr i Met Caerdydd a chael cychwyn da. 

“Mae’r canlyniad yna wedi hynny wedi sefydlu ni fel un o’r timau sydd am wthio am y chwech uchaf ond mae’n rhaid i ni anghofio am hynny rwan. Mae’n rhaid i ni symud ymlaen i geisio cael triphwynt arall.”

Bydd Y Fflint yn dychwelyd i’r cae pan fydden nhw’n croesawu Derwyddon Cefn, a chefnogwyr, nôl i Stadiwm Essity.

Cychwynnodd y Derwyddon eu tymor gyda golled o 2-0 yn erbyn pencampwyr y Cymru Premier, Nomadiaid Cei Connah. 

Gan orffennodd Derwyddon Cefn yn olaf yn y tabl tymor diwethaf ac wedi gwneud gymaint o newidiadau dros yr hâf, gan gynnwys yr apwyntiad o Niall McGuinness fel hyfforddwr, mae gan y clwb y statws o’r annhebygolwyr tymor yma. 

Er hynny, credai Phillips fod yr holl annisgwylder yn gwneud y Derwyddon yn wrthwynebwyr peryglus.

“Dani’n ddisgwyl gêm galed iawn. Os wyt ti’n edrych ar canlyniad nhw yn erbyn Cei Connah, mae colli 2-0 yn barchus. Gallai’m gweld llawer o dimau yn curo Cei Connah blwyddyn yma. 

“Mae Niall McGuinness nawr yn Nerwyddon Cefn, arfer bod yn Fflint felly bydd o eisiau ennill. Mae o wedi sefydlu garfan hollol newydd, llawer o chwaraewyr newydd felly dani’m yn sicr beth i ddisgwyl ganddyn nhw. 

“Os ydyn nhw’n cael eu labelu fel yr ‘underdogs’ a ni ydy’r ffefrynau, mae na ychydig fwy o bwysau arnon ni. 

“Y peth gwaethaf dani’n gallu gwneud yw mynd fewn i’r gêm nesaf yn meddwl ei fod yn mynd i fod yn hawdd, does na ddim gemau hawdd yn Uwch Gynghrair Cymru. 

“Mae’r canlyniad o wythnos diwethaf wedi mynd. Bydd o ‘mond yn dechrau da os dani’n dilyn o fyny gyda triphwynt arall.”

(Credyd Llun: Carl Robertson)

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.