Tref Caerfyrddin 0-0 (4-5 p) Y Seintiau Newydd: Yr Hen Aur yn colli ar giciau o’r smotyn

Bu’n rhaid i’r Seintiau Newydd ddibynnu ar giciau o’r smotyn i drechu Caerfyrddin ar ôl cael eu dal i gêm ddi-sgôr ar Barc Waun Dew.

Roedd y Seintiau Newydd lawr i ddeg dyn am y deng munud olaf ar ôl i’r cefnwr Chris Marriott gael ei hel o’r cae, ond fe wnaethon nhw ddal ymlaen i fynd â’r gem i giciau o’r smotyn.


Y Seintiau gafodd y cyfle clir cyntaf o’r gêm yn y deng munud agoriadol. Gwnaeth Danny Redmond yn dda i dorri i mewn i’r cwrt cosbi, cyn llusgo pas yn ôl i Dean Ebbe. Fodd bynnag, roedd ergyd yr ymosodwr heb daro’r nod.

Ychydig funudau’n ddiweddarach, cafodd y Seintiau gyfle arall. Roedd cic cornel wedi arwain at sgrialfa yn y cwrt cosbi, ond methodd y Seintiau â chael ergyd drwy’r amddiffyn. Yn y diwedd, fe wnaeth Leo Smith gymryd ergyd o ymyl y cwrt cosbi, ond roedd Trystan Jones wrth law i glirio’r perygl.

Ar ôl hynny, prin oedd y cyfleoedd yn yr hanner cyntaf. Roedd Caerfyrddin yn edrych i wrth ymosod, gyda Greg Walters wrth galon ganol cae yn chwarae pasys hyfryd i’r ymosodwyr, ond ni ddaeth unrhyw gyfle clir o hyn.

Nid oedd y naill golwr na’r llall wedi gorfod gwneud unrhyw beth tan bum munud i mewn i’r ail hanner. Ceisiodd Adrian Cieslewicz gyrlio ergyd i mewn o ymyl y cwrt cosbi, ond fe wnaeth Scott James yn ardderchog i’w bario allan am gic gornel.
Cafodd y Seintiau ddigon o gyfleoedd o giciau cornel drwy gydol y gêm, ond yr agosaf y daethant i wneud iddo gyfrif oedd ar ôl awr o chwarae, pan gafodd peniad gan Leo Smith ei benio oddi ar y llinell gan un o amddiffynnwr Caerfyrddin.

Roedd y tîm oddi cartref yn amlwg â’r oruchafiaeth wrth fynd mewn i’r hanner awr olaf, ac fe ddaethon nhw â’u prif sgoriwr Declan McManus ymlaen i geisio gwneud i’r pwysau gyfrif. Ar ôl yr eilydd hwn, daeth y gêm yn fyw, gyda llu o gyfleoedd i’r ddau dîm.

Dean Ebbe gafodd cyfle gorau’r gêm, ar ôl camgymeriad amddiffynnol gan Gaerfyrddin. Ceisiodd Jordan Vickers glirio’r bêl pan oedd y golwr Scott James yn barod i’w gasglu, ac yna syrthiodd y bêl i Cieslewicz. Fe wnaeth yr asgellwr tsipio’r bêl ar draws y gôl, ac roedd gan Ebbe peniad rhydd a gôl wag, ond aeth y peniad dros y trawst.

Yna cafodd Robles ei hun mewn i safle sgorio, gan ddangos cyflymder da i guro Trystan Jones. Fodd bynnag, gwnaeth Scott James yn dda yn y sefyllfa un-ar-un.

Yna cafodd Caerfyrddin gyfle eu hunain – digwyddiad prin tan hyn. Ceisiodd y chwaraewr canol cae bywiog Tom Dyson gyrlio ergyd i mewn o du allan i’r cwrt cosbi, ond roedd gormod o uchder arno ac nid oedd wedi bygwth gôl Connor Roberts.
Roedd Dyson yng nghanol popeth eto yn fuan wedyn, gan chwarae croesiad da i’r cwrt cosbi. Yn anffodus iddo, nid oedd neb mewn crys aur yn barod i fanteisio ar y cyfle.

Gyda Chaerfyrddin bellach â rhywfaint o fomentwm, cafodd y Seintiau eu hunain mewn mwy o drafferth pan gafodd y capten Chris Marriott ei anfon i ffwrdd. Fe dynnodd y cefnwr chwith Jordan Vickers i lawr, ac ar ôl cael cerdyn melyn eisoes yn y munudau agoriadol, cafodd ei ddanfon o’r cae gan Richard Harrington.

Fe greodd Dyson, prif allfa greadigol Caerfyrddin, un cyfle arall yn yr amser am anafiadau, gan chwarae pêl beryglus ar draws wyneb y gôl, ond fe gyrhaeddodd Keston Davies yno cyn unrhyw chwaraewr o Gaerfyrddin, a chliriwyd y perygl.

Daeth y cyfle olaf o fewn amser arferol i’r Seintiau, a gafodd gic rydd 25 llath allan o’r gôl, ond fe hedfanodd ergyd Declan McManus ymhell dros y trawst.

Gyda’r gêm yn cael ei phenderfynu gan giciau o’r smotyn, y golwr Connor Roberts oedd arwr y Seintiau. Ar ôl i Ben Steele a Matthew Delaney sgorio eu ciciau, fe wnaeth Roberts arbed ymdrech Tom Dyson, ac fe gafodd y Seintiau’r fantais. Gyda gweddill y ciciau o’r smotyn i gyd yn cael eu sgorio, daeth i lawr i Danny Redmond am gic olaf y prynhawn. Taniodd y canolwr ymdrech rymus i’r gornel dde isaf, allan o gyrraedd Scott James, er mwyn sicrhau buddugoliaeth i’r Seintiau.


2021/22 JD Welsh Cup – Fixtures & Results


Seren y Gêm:

Greg Walters – Caerfyrddin

Mewn gêm lle’r oedd yr Hen Aur dan bwysau aruthrol am gyfnodau mawr, gwnaeth y capten ei waith yn ardderchog ym mhob agwedd o’r gêm. Roedd bob amser yn barod i helpu’r amddiffyn, ond dangosodd hefyd ei allu i ddechrau gwrthymosodiadau pan gododd y cyfle.


Tref Caerfyrddin: Scott James, Trystan Jones, Lee Surman (Lewis Rocke 90′), Scott Tancock, Greg Walters (C), Tom Dyson, Josh Vickers, Ben Steele, Dion Phillips, Adam John, Matthew Delaney

Eilyddion heb eu defnyddio: Ifan Knott, Noah Daley, Cameron Berry, Bradley Gibbings

Cerdyn melyn: Jordan Vickers 43′

Ciciau o’r smotyn: Ben Steele ✓ Matthew Delaney ✓ Tom Dyson X Trystan Jones ✓ Jordan Vickers ✓

Y Seintiau Newydd: Connor Roberts, Chris Marriott (C), Keston Davies, Ryan Astles, Dean Ebbe (Jordan Williams 77′), Danny Redmond, Adrian Cieslewicz, Louis Robles, Leo Smith (Declan McManus 66′), Ash Baker, Tom Holland (Jon Routledge 66′)

Eilyddion heb eu defnyddio: Ben Clark, Danny Davies

Cardiau melyn: Chris Marriott 4, Dean Ebbe 56, Declan McManus 84′

Cerdyn coch: Chris Marriott 81′

Ciciau o’r smotyn: Declan McManus ✓ Louis Robles ✓ Adrian Cieslewicz ✓ Jon Routledge ✓ Danny Redmond ✓

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.