May 20, 2024

Y Clwb Pêl-droed

Your home for Welsh domestic football!

Hat-tric Rushton yn rhoi buddugoliaeth gyfforddus i’r Drenewydd

NEWTOWN, WALES - 04 DECEMBER 2021: Newtown's Nick Rushton during the JD Cymru Premier league fixture between Newtown AFC & Barry Town United FC, Newtown, Wales, 4th of December. (Pic By John Smith/FAW)

Fe wnaeth hat-tric gan Nick Rushton atal Aberystwyth rhag cwblhau’r dwbl yn narbi canolbarth Cymru ar noson wyntog ar Goedlan y Parc.

Manteisiodd Sam Phillips ar gamgymeriad gan Dave Jones i dynnu gôl yn ôl i Aber yn gynnar yn yr ail hanner, ac ychwanegodd Rhys Davies gôl arall yn y munudau olaf, ond doedden nhw’n ddim byd mwy na goliau cysur.

Cafodd yr amodau effaith enfawr ar y gêm, gyda gwynt chwyrlïog yn achosi anhrefn ar unrhyw beli hir, a doedd cawod drom o law yn yr hanner cyntaf heb helpu pethau.


Dim ond tri munud gymerodd hi i’r Drenewydd sgorio’r gôl gyntaf. Fe roddodd Alex Darlington y bêl i ffwrdd yng nghanol y cae, gan ganiatáu i James Davies dorri’n glir gydag erwau o le o’i flaen. Fe wnaeth yr asgellwr sgwario i Rushton, a sgoriodd ei chweched gôl gynghrair o’r tymor.

Daeth Aberystwyth yn agos i ddod â’r sgôr yn gyfartal funud yn unig ar ôl ildio. Cafodd tafliad hir gan Jack Thorn ei benio yn glir gan Y Drenewydd, gan ddisgyn yn syth i Mathew Jones ar gyrion y cwrt cosbi, a welodd ei ergyd bwerus yn taro’r postyn ar ôl cymryd gwyriad.

Cafodd y tîm cartref gyfle arall ar ôl chwarter awr. Fe wnaeth John Owen godi’r bêl ymlaen i Jonathan Evans, a welodd ei ymdrech un-i-un yn cael ei arbed yn dda gan Dave Jones.

Roedd Aber wedi difaru methu, wrth i Rushton sgorio ei ail i ddyblu mantais Y Drenewydd eiliadau’n unig yn ddiweddarach. Chwaraeodd James Davies ac Aaron Williams un-dau yn yr awyr, cyn i Williams chwarae’r bêl ymlaen i Rushton a gododd y bêl dros Zabret ar hanner-foli.

Roedd y tîm oddi cartref yn sicr yn yr esgyniad ar ôl yr ail gôl, a daeth y capten Craig Williams yn agos at ychwanegu trydydd, wedi i’w ergyd bwerus o ymyl y cwrt cosbi hedfan yn syth i ddwylo Zabret. Daeth Mwandwe yn agos hefyd, gan wrth-ymosod o dafliad hir gan Aber a mynd yr holl ffordd i mewn i’r cwrt cosbi, ond fe wnaeth ei ergyd daro’r rhwyd ochr.

Cafodd Aber ergyd arall wedi hanner awr wedi i’r cefnwr de Jack Rimmer, un o chwaraewyr gorau’r gêm hyd at y pwynt hwnnw, gael ei orfodi i ffwrdd gydag anaf i’w goes.

Gyda dim ond eiliadau ar ôl o’r hanner cyntaf, fe wnaeth ymyriad hwyr gan Alex Darlington atal Y Drenewydd rhag sgorio trydedd sicr. Unwaith eto, torrodd James Davies yn glir wedi i ymgais Jenkins i glirio gael ei rwystro’n ddamweiniol gan ei chwaraewr ei hun yn Mathew Jones, ond aeth Darlington yn ôl i ryng-gipio pas Davies i Mwandwe.

Dim ond pum munud i mewn i’r ail hanner, fe wnaeth Aberystwyth leihau’r diffyg. Daeth Dave Jones allan o’i gwrt cosbi i geisio casglu pêl hir, ond fe wnaeth chwarae’r bêl yn syth at Sam Phillips a basiodd y bêl mewn i’r gôl wag. Gallai Jones gyfrif ei hun yn lwcus bod y gôl wedi cyfrif, fel arall gallai fod wedi cael ei hel o’r cae am lawio’r bêl.

Ond fe wnaeth Y Drenewydd adfer eu mantais o ddwy gôl bymtheg munud yn ddiweddarach. Gwnaeth Zabret yn dda i arbed ergydion gan Aaron Williams a James Davies, ond doedd dim y gallai ei wneud i atal Rushton rhag cwblhau ei hat-tric gyda’r hawsaf o’i dair gôl.

Yna ychwanegodd James Davies bedwerydd i’r Drenewydd gyda llai na 15 munud ar ôl. Aeth tafliad hir gan Callum Roberts yr holl ffordd i Davies ar y postyn pellaf, a daniodd ei ergyd heibio Zabret.

Sgoriodd yr eilydd Rhys Davies gôl gysur i’w dîm yn y munudau olaf. Cododd y cefnwr chwith yn uwch nag unrhyw amddiffynnwr i gwrdd â chic cornel Mathew Jones, gan anfon peniad pwerus mewn i’r gôl.


Cymru Premier – Fixtures and Results – 2021/2022 season

Antonio Corbisiero on the switch to management, the season so far, and the future of the league


Seren y gêm

Nick Rushton – Y Drenewydd

Er bod pobl fel Lifumpa Mwandwe ac Aaron Williams wedi cymryd y penawdau i’r Drenewydd gyda’u perfformiadau y tymor hwn, mae Rushton wedi bod yn rhan allweddol o linell flaen Y Drenewydd. Mae’r blaenwr clinigol bellach wedi sgorio wyth gôl yn y gynghrair y tymor hwn.

Timau

Aberystwyth: (4-3-3) Gregor Zabret; Jack Rimmer (Owen Orford 35′), Lee Jenkins, Louis Bradford, Matthew Jones; Jamie Veale, Alex Darlington (Rhys Davies 53′), Jack Thorn (C); Jonathan Evans (Raul Correia 58′), John Owen, Sam Phillips

Eilyddion heb eu defnyddio: Alex Pennock, Richie Ricketts, Cameron Allen, Jamie Jones

Goliau: Sam Phillips 51, Rhys Davies 89′

Cardiau melyn: Jamie Veale 22, Lee Jenkins 38′

Y Drenewydd: (4-2-3-1) Dave Jones; Craig Williams (C) (Ryan Edwards 81′), Kieran Mills-Evans, Brett Taylor, Callum Roberts; Jake Walker, George Hughes; Lifumpa Mwandwe (Henry Cowans 81′), Nick Rushton (Jordan Evans 81′), James Davies; Aaron Williams

Eilyddion heb eu defnyddio: Max Williams, James Rowland, Ben Guest, Naim Arsan

Goliau: Nick Rushton 4, 18, 68, James Davies 76′

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.