Christian Edwards wedi cael effaith enfawr ar y Met dywed Emlyn Lewis
Emlyn Lewis of Cardiff Met in action against Bala Town. Cardiff Metropolitan University v Bala Town at Cyncoed Campus in the JD Cymru Premier on the 11th January 2020. Lewis Mitchell/YCPD.
Mae Emlyn Lewis wedi canmol yr effaith mae Christian Edwards wedi cael yn ei amser fel hyfforddwr Met Caerdydd.
Yn ystod ei 13 mlynedd yn y swydd, mae Edwards wedi eu harwain o’r bedwaredd haen o bêl-droed Cymru i Gynghrair Ewropa UEFA, yn ogystal â fod yn gystadleuol yn y Cymru Premier.
Fodd bynnag, datgelodd pennaeth y Met ar ddechrau’r ymgyrch hon mai hwn fydd ei olaf, gan gamu i lawr ar ddiwedd y tymor.
Roedd Lewis, cefnwr dalentog y Met sydd wedi chwarae o dan Edwards am wyth mlynedd, yn llawn canmoliaeth i’r ddylanwad mae’r hyfforddwr wedi cael ar y clwb a’i yrfa’n bersonol.
“Mae o wedi cael adlewyrchiad enfawr arna i yn bersonol ac i llawer o bobl sydd wedi mynd a dod o’r clwb.
“Mae o wedi bod yn y clwb ers 13 o flynyddoedd nawr ac wedi datblygu’r clwb ar y cae tuag at y Cymru Premier.
“Mae o hefyd wedi datblygu’r clwb i ffwrdd o’r chwarae hefyd, gyda cae 3G, y cyfleusterau sydd gyda ni nawr, yr holl staff ac mae o wedi gwneud hynny bron a bod ar ben ei hun.
“Mae na gymaint o bobl sydd wedi chwarae eu rhan ac wedi helpu, ond fe sydd wedi gyrru’r safonau.
“I fi’n bersonol, byddai byth y chwaraewyr dwi nawr hebddo fo. Mae o wedi helpu fi ar y cae i ddatblygu fel chwaraewr ond fel dyn hefyd.
“Mae’n rhaid edrych nôl ar y 13 mlynedd diwetha a’r wyth mlynedd dwi wedi bod yma a bod yn hapus iawn o beth sydd wedi digwydd, sut mae o wedi datblygu’r clwb.”
Ymunodd Lewis â’r Met ar ôl treulio amser ar lefel ieuenctid gydag Aberystwyth.
Ers hynny, mae’r amddiffynwr wedi mynd ymlaen i wneud dros 100 o ymddangosiadau Cymru Premier ac wedi cynrychioli Cymru C.
Teimlai Lewis fod ei berthynas ag Edwards wedi dod â thwf ar ac oddi ar y cae.
“Mae’r berthynas gyda fe yn un gryf iawn, un diddorol mae’n rhaid dweud.
“Dani wedi cwympo mas cwpwl o weithiau, ond mae o wedi datblygu fi gymaint fel person.
“Mae’r berthynas sydd gennai gyda fo yn grêt a hyd yn oed ar ôl iddo fo adael, dwi’n mynd i gadw mewn cyswllt. Dwi’n agos iawn at ei deulu fo hefyd.
“Mae’n bwysig iawn ei fod wedi bod yn ffrind, ond dani’n gwybod lle mae’r linell o le mae gwaith yn gorfod digwydd ac wrth gwrs, mae hynny ar y cae. Dyna’r fath o berthynas sydd gynnon ni.”

Agorodd Met Caerdydd yr ymgyrch gyda cholled a dwy gêm gyfartal ddi-sgôr, ond fe gipiodd eu buddugoliaeth gyntaf o’r tymor gan guro Penybont 3-2.
Tra fod Lewis yn mynnu fod garfan y Met yn benderfynol o wneud blwyddyn olaf Edwards yn un lwyddiannus, mae’r amddiffynwr yn teimlo bod cynllunio ar gyfer y dyfodol yn hynod bwysig.
“Mae o’n bwysig i gael tymor lwyddiannus yn ei flwyddyn olaf, ond wrth gwrs, mae’n dymor arall i ni.
“Dani erioed wedi meddwl bod angen gwneud mwy achos fod y hyfforddwr yn gadael gan fod y safonau mor uchel a broffesiynol beth bynnag.
“Wrth gwrs, bydde fo’n grêt i ni drio ein gorau i lwyddo iddo fo ond mae’r ymdrech yna’n digwydd bob tymor.
“Dwi’n credu ei fod o’n bwysig i gael beth dani’n gallu tymor yma ond hefyd symud ymlaen i flwyddyn nesaf hefyd. Meddwl am sut allen ni symud ymlaen heb Christian. Dyna’r ffordd bydde fo eisiau ni edrych ar y dasg hefyd.”
Bydd Met Caerdydd yn dychwelyd i’r cae y penwythnos hwn wrth iddyn nhw deithio i wynebu Aberystwyth.
Gyda Lewis yn gweld rhai wynebau cyfarwydd, mae’r amddiffynwr yn disgwyl prawf caled.
“Wnaethon ni chwarae yn erbyn Aber yn y cyn-dymor ac mae’r garfan o hynny i nawr wedi newid.
“Dwi’n nabod Antonio Corbisiero, Gari Lewis a Bari Morgan yn dda iawn o’r clwb. Mae nhw wedi datblygu’r tîm yn dda iawn.
“Mae’n nhw’n chwarae gyda diamwnt efo dau person cryf yn John Owen a Raul Correia lan top a mae hynny’n beryglus.
“Gobeithio mi wnawn ni baratoi yn dda a trio ein gorau i gael canlyniad bositif.”
